Tudalen 1 o 5

Croesair Cymraeg Ar-lein (arbrofol)

PostioPostiwyd: Iau 18 Awst 2005 10:50 pm
gan 7ennyn
Dwi wedi sgwennu rhaglen JavaScript bach i greu croeseiriau Cymraeg. Rhowch glec <strike>yma</strike> i drio'r fersiwn arbrofol cyntaf. Mi ddylai weithio yn Internet Explorer 6 a dwi'n ddyfal drio ei gael i weithio mewn gwe-borwyr eraill. Plis triwch o a mi fyswn i'n ddiolchgar iawn iawn iawn o unrhyw sylwadau.

Dim ond esgyrn sychion ydi o ar hyn o bryd ond dwi'n chwarae hefo'r syniad o greu gwefan ar gyfer nytars croeseiriau Cymraeg - oes yna alw am un?

PostioPostiwyd: Iau 18 Awst 2005 11:11 pm
gan Hedd Gwynfor
Ddim yn gweithio ar Firefox ar y Mac.

PostioPostiwyd: Iau 18 Awst 2005 11:13 pm
gan krustysnaks
nac ar Safari.

PostioPostiwyd: Iau 18 Awst 2005 11:14 pm
gan Alun Abertawe
Yn sicr. Cer amdani 7ennyn!

PostioPostiwyd: Iau 18 Awst 2005 11:24 pm
gan Hogyn o Rachub
Mae'n gweithio ar f'un i!

PostioPostiwyd: Gwe 19 Awst 2005 6:13 am
gan 7ennyn
'Di Microsoft heb gymryd drosodd y byd yn llwyr eto felly! Dwi'n gwbod be sydd yn rhaid neud i'w gael i weithio hefo epilion Netscape dwi'n meddwl :? . Wnai weithio arno fo dros y wicend (aros i fewn - dim pres :( ).

Yn y cyfamser, fyswn i'n ddiolchgar 'tysa chi'n deud pa fersiwn o'ch gwe-borwr ydach chi'n ddefnyddio.

O, ia, - wnes i anghofio deud. Defnyddiwch yr allweddi <^v> i symud y cyrchwr rownd y grid ac i benderfynu pa gyfeiriad i deipio eich atebion. Mae'r botwm 'del' yn gweithio hefyd.

PostioPostiwyd: Gwe 19 Awst 2005 7:39 am
gan sian
IE6 sy da fi ac mae'n gweithio'n iawn hyd y gwela i - dim amser i'w wneud e i gyd - hyd yn oed taswn i'n gallu!
Da iawn.

PostioPostiwyd: Gwe 19 Awst 2005 8:06 am
gan HenSerenSiwenna
Gweithion iawn ar network JMU : ) dwi'm yn meddwl bo fi digon clyfar i ateb y cwestiynau ond mi wnai cael go rhyw bryd arall! Fyswn ni'n hoffi gwybod beth yw'r enw arall am tafodiaeth :D

PostioPostiwyd: Gwe 19 Awst 2005 9:47 am
gan dafydd
7ennyn a ddywedodd:'Dwi'n gwbod be sydd yn rhaid neud i'w gael i weithio hefo epilion Netscape dwi'n meddwl :? .

Gwych iawn. Mae gen ti semicolon di-angen yn symudDde() a symudChwith() (cyn yr else) - heb rheini mae'r sgript yn rhedeg ym mhorwyr Gecko.

Hefyd ar gyfer darllen y bysellfwrdd, os wyt ti'n pasio'r reference e.e. pwysoAllwedd(event); fydd hi'n bosib darllen hyn ar gyfer y porwyr i gyd:
yn function pwysoAllwedd(event){

Cod: Dewis popeth
var allwedd = event.keyCode ? event.keyCode :
                event.charCode ? event.charCode :
      event.which ? event.which : void 0;

Re: Croesair Cymraeg Ar-lein (arbrofol)

PostioPostiwyd: Gwe 19 Awst 2005 10:56 am
gan Al
7ennyn a ddywedodd: oes yna alw am un?


Blydi hell oes, ma wncwl fi yn obsessed efo nhw, a mae o yn hoffi dod ar-lein :crechwen: