Tudalen 2 o 5

PostioPostiwyd: Gwe 19 Awst 2005 5:12 pm
gan 7ennyn
Diolch am dy gyngor Dafydd! :D Bruliant!!

'Mond hanner dallt be dwi'n wneud ydw i - dwi wedi ei deipio i gyd o scratch gan ddefnyddio Notepad, a dwi'n defnyddio IE6 i'w drio fo allan - sydd i'w weld yn fwy goddefgar o gamgymeriadau bach na'r porwyr eraill. A hefyd - dwi newydd sylweddoli bod y gwe-borwyr eraill sydd gennai (Netscape ac Opera) yn 6 mlwydd oed :rolio: !! Lawr-lwytho porwyr newydd fydda i'n wneud heno felly!

PostioPostiwyd: Gwe 19 Awst 2005 9:36 pm
gan 7ennyn
SerenSiwenna a ddywedodd:Gweithion iawn ar network JMU : ) dwi'm yn meddwl bo fi digon clyfar i ateb y cwestiynau ond mi wnai cael go rhyw bryd arall! Fyswn ni'n hoffi gwybod beth yw'r enw arall am tafodiaeth :D


Ia, sori am safon y cliwiau :wps: , dim ond 'proof of concept' ydi hwn ar y funud. Fyswn i'n licio gwbod os ti'n gallu symud y cyrchwr o gwmpas y grid a teipio'r atebion i fewn yn iawn ar dy gyfrifiadur di. 'Acen' ydi'r ateb ar gyfer y cliw 'tafodiaith' - ond paid a deud wrth bawb :winc: . (Ia, ia, - dwi'n gwbod bod y cliw yma'n wallus cyn i'r pedants neidio ar fy nghefn!)

PostioPostiwyd: Sad 20 Awst 2005 9:30 pm
gan 7ennyn
<strike>Un bach (arbrofol) arall!</strike>

PostioPostiwyd: Sul 21 Awst 2005 12:14 am
gan Mali
Sori , ond does dal dim golwg o'r croesair yma 7ennyn :(
Mozilla Firefox sgen i .

PostioPostiwyd: Sul 21 Awst 2005 12:20 am
gan carwyn
Mali a ddywedodd:Sori , ond does dal dim golwg o'r croesair yma 7ennyn :(
Mozilla Firefox sgen i .


minne ru'n modd mae arna'i ofn. :(

PostioPostiwyd: Sul 21 Awst 2005 12:32 am
gan 7ennyn
Mali a ddywedodd:Sori , ond does dal dim golwg o'r croesair yma 7ennyn :(
Mozilla Firefox sgen i .


Carwyn a ddywedodd:minne ru'n modd mae arna'i ofn.


Sori, dwi wedi bod yn ddiog heddiw, mi weithiai ar y cod 'fory. Mae o'n gweithio yn IE6 (wir yr!). Newydd lawrlwytho copi newydd o Firefox, felly wnai drio sortio petha allan fory. Plis dowch yn ol nos fory, fyswn i'n ddiolchgar iawn o'ch barn.

PostioPostiwyd: Sul 21 Awst 2005 11:05 am
gan 7ennyn
Problemau Mozzilla/Firefox wedi eu sortio allan dwi'n meddwl (Diolch i ti Dafydd!) Triwch nhw!: <strike>Rhif 1</strike> a <strike>Rhif 2</strike>.

Dal ddim yn gweithio yn fy nghopi 6 mlwydd oed o Opera :(

PostioPostiwyd: Sul 21 Awst 2005 11:11 am
gan Al
7ennyn a ddywedodd:Problemau Mozzilla/Firefox wedi eu sortio allan dwi'n meddwl (Diolch i ti Dafydd!) Triwch nhw!: Rhif 1 a Rhif 2.


Mozilla Firefox Cymraeg, 'Good to go' 8)

PostioPostiwyd: Sul 21 Awst 2005 6:09 pm
gan 7ennyn
Yyyyyym, y diweddara:

    Wedi ei gael i weithio yn y rhan fwyaf o borwyr (profwch fi'n rong! 8) ).
    Gallwch chi ddewis eich sgwar a'r ffordd mae'r cyrchwr yn wynebu gan ddefnyddio eich llygoden.
    Wedi llunio'r trydydd pos i chi gael drio.


<strike>Croesair 1</strike>|<strike>Croesair 2</strike>|<strike>Croesair 3</strike>

Wnai ddechra rhoi gwefan go-iawn at ei gilydd cyn bo hir, felly 'wotsh ddus sbes'.

PostioPostiwyd: Sul 21 Awst 2005 6:12 pm
gan Al
Dwin meddwl gall y wefan yma, fod yn 'hit' da iawn , yn enwedig fy wncwl...

Wy ti am brynnu enw parth, a rhoi enw i'r wefan?