Tudalen 3 o 5

PostioPostiwyd: Sul 21 Awst 2005 6:22 pm
gan 7ennyn
Al a ddywedodd:Wy ti am brynnu enw parth, a rhoi enw i'r wefan?


'Sgin ti awgrymiadau Al?

PostioPostiwyd: Sul 21 Awst 2005 6:33 pm
gan Al
7ennyn a ddywedodd:'Sgin ti awgrymiadau Al?


na, dim clem, dwin crap gyda pethau felly, ond mae Dafydd yn un da, o fo geshi y enw sgarmes..

Diolch Daf :winc:

PostioPostiwyd: Sul 21 Awst 2005 6:35 pm
gan Daffyd
Mae'n gweithio ar Netscape 7.1, os ma ehynnu'n helpu'r achos.

Ai ond geiriau Cymraeg yw'r atebion? Cwestiwn gwirion ac amlwg, ond waeth i mi ofyn.

PostioPostiwyd: Sul 21 Awst 2005 6:52 pm
gan sian
Difyr!
Un peth - fyddai modd i ti gynnwys "ch" "dd" "ff" "ng" etc fel un llythyren - neu efallai nad yw'r rhaglen yn caniatu i gi wneud hynny?

PostioPostiwyd: Sul 21 Awst 2005 7:06 pm
gan 7ennyn
Mae 'ch' 'dd' 'ff' a.y.y.b. yn cyfri fel dau lythyren i bwrpas y croeseiriau hyn. Bysa eu cyfri fel un llythyren yn gymhleth i'w wneud a bysa hynny yn gwneud y rhyngwyneb yn anghyfeillgar yn fy marn i. Hefyd, mae eu cyfri fel dau lythyren yn gwneud cynllunio'r pos yn llawer mwy hyblyg ac yn haws - mae hyn yn bwysig oherwydd dwi'n bwriadu llunio lot fawr ohonyn nhw yn y dyfodol agos. Dwi'n gobeithio nad ydi hyn yn codi gwrychyn neb :?

Ac ia, Cymraeg ydi'r atebion i gyd.

PostioPostiwyd: Sul 21 Awst 2005 7:09 pm
gan Mali
Diolch 7ennyn....newydd gael edrychiad sydyn ar y croesair cyntaf a'r ail , ac maent yn edrych yn rhai arbennig o dda ! Hyd y gwyddwn i , does 'na run croesair Cymraeg arall ar y we , felly yn edrych ymlaen i weld dy wefan newydd.
:)

PostioPostiwyd: Sul 21 Awst 2005 9:48 pm
gan gronw
dydy rhoi ch, ff ac ati fel dwy lythyren ddim rili'n gywir, ac mae o'n neud y croesair yn anoddach mewn ffordd baffling, gan bo fi wedi arfer meddwl amdanyn nhw fel un llythyren. dio ddim yn "codi ngwrychyn" i, ond petai modd neud nhw'n un llythyren bydde hynny'n wych!

heblaw hynny, mae'r croeseiriau yn cŵl iawn, ac ma gneud gwefan swyddogol efo enw catchy yn syniad da. mwya o stwff cymraeg ar y we, gore i gyd. gwd thing.

PostioPostiwyd: Sul 21 Awst 2005 9:53 pm
gan Al
gronw a ddywedodd:heblaw hynny, mae'r croeseiriau yn cŵl iawn, ac ma gneud gwefan swyddogol efo enw catchy yn syniad da. mwya o stwff cymraeg ar y we, gore i gyd. gwd thing.


union be dwin feddwl, beth am hwn fel a enw a slogan...

Croeslin
Croesi geiriau ar-lein

na? meddwl just.....

PostioPostiwyd: Sul 21 Awst 2005 10:15 pm
gan dafydd
Mynd am y peth symlaf fasen i, gan fod croesair.com/net/org ar gael.

PostioPostiwyd: Sul 21 Awst 2005 10:19 pm
gan 7ennyn
Al a ddywedodd:Croeslin
Croesi geiriau ar-lein

:D

Dwi wedi cofrestru 'croesair.com' - diddychymyg dwi'n gwbod, ond hawdd i'w gofio. Wnai adael i chi wybod pryd y bydd o'n barod - cyn pen mis gobeithio. Y cwbl dwi isio rwan ydi ychydig o benwythnosau glawog i gynllunio mwy o bosau at y casgliad.

Yn y cyfamser, <strike>un bach arall</strike> i aros pryd.

<strike>Croesair 1</strike>|<strike>Croesair 2</strike>|<strike>Croesair 3</strike>|<strike>Croesair 4</strike>