Tudalen 4 o 5

PostioPostiwyd: Maw 23 Awst 2005 6:13 am
gan 7ennyn
gronw a ddywedodd:dydy rhoi ch, ff ac ati fel dwy lythyren ddim rili'n gywir, ac mae o'n neud y croesair yn anoddach mewn ffordd baffling, gan bo fi wedi arfer meddwl amdanyn nhw fel un llythyren.


Dwi wedi bod yn poeni am hyn. Mae yna fanteision i'w harddangos fel dwy lythyren yn y sgwariau. Mae'n gwneud y rhyngwyneb yn llawer symlach. Mae'n gwneud dyfeisio posau newydd yn lot haws. Mae'n edrych yn well yn fy marn i.

Ond be am hyn fel cyfaddawd:

Rhoi llinnell bychan rhwng y llythrennau (e.e. C-H, D-D a.y.y.b) ar y grid a'u cyfrif fel un llythyren wrth ddynodi hyd yr ateb yn y cliw:
(e.e. 1 Trosedd ddifrifol (10) - (llofruddiaeth).

Wnai sgwennu sgript i drio gwneud hynny pan gai amser.

PostioPostiwyd: Mer 31 Awst 2005 11:31 pm
gan 7ennyn
Dwi'n falch o ddeud bod y fersiwn diweddara' o'r rhaglen yn derbyn 'ch', 'dd', 'ff' a.y.y.b fel un llythyren (hwre :D ). Dwi wedi gwneud ychydig o newidiadau bach eraill i'r rhyngwyneb a chael gwared o 'chydig o bygs. Bydd croesair.com yn seiliedig ar y fersiwn yma (mwy neu lai).

Os ydach chi isio trio'r rhyngwyneb newydd rhowch glec <strike>fan hyn</strike>. Does yna ddim cliwiau, ond chwaraewch o gwmpas hefo fo i weld be ydach chi'n feddwl. Fyswn i'n ddiolchgar iawn o unrhyw awgrymiadau/ adroddiadau bygs a.y.y.b.

Defnyddiwch yr allweddi cyrchu (v,^,<,>) i symud o gwmpas y grid.

PostioPostiwyd: Mer 14 Medi 2005 6:07 am
gan 7ennyn
Mae'r sgript yn gweithio fel ydw i isio iddo fo rwan. Ond mae'r 'keyboard shortcuts' yn Opera yn blydi niwsans, ond dwi'n gobeithio y byddai wedi goresgyn y broblem yma cyn lawnsio croesair.com (oes gan rhywun syniadau sut?).

Beth bynnag, rhowch gynnig ar <strike>Croesair rhif 1</strike> i weld be ydach chi'n feddwl. Dim ond yr esgyrn sychion ydi'r fersiwn yma - bydd croesair.com hefo diwyg llawer mwy fflashi!

Diolch i:
Dafydd, Al, Mali, Gronw, Hedd, Krustysnacks, Alun, Hogyn o Rachub, Sian, Seren Siwenna, Carwyn a Daffyd am eich sylwadau a'ch anogaeth. Diolch arbennig i Al am gynnig lle ar ei we-weinydd i mi gael profi fy sgriptiau PHP ac i Dafydd am daro golwg dros fy javaScript a'i gael i weithio gyda Mozilla.

PostioPostiwyd: Mer 14 Medi 2005 10:31 am
gan Al
Bopeth yn edrych yn gret, falch mae pethau yn dechrau caelm strwythyr.

Gallai awgrymu rhywbeth? Ti di clywed o RSS? Mae'n teclyn brillinat, diwn ei defnyddiongyda gwefan BBC er mwyn cael y newyddion newyddion llwytho i mewn yn 'awtomatic' i'm rhestr ffefrynnau. Dwnim os fydd hi yn syniad i chdi creu RSS i Croesair.com, felly gall pobl yn gwaith tanynsgrifio, wedyn pob dydd fydd y cyfrifiadur yn chekio am croesair newydd nhw cael neud os mai pethau yn ddiflas yn y gweithle...

Mae'n rhywbeth i ystyried dwin meddwl

PostioPostiwyd: Mer 14 Medi 2005 11:53 am
gan dafydd
7ennyn a ddywedodd:Beth bynnag, rhowch gynnig ar Croesair rhif 1 i weld be ydach chi'n feddwl.

Neis iawn. Dwi'n hoples gyda croeseiriau yn enwedig rhai Cymraeg ond mae'n hwyl i drio.

Wyt ti am roi y cod Javascript a CSS mewn ffeiliau allanol? Hefyd mae'r î yn tîm yn edrych yn anghywir.. dwi ddim yn meddwl ei fod e'n lythyren UTF-8 cywir dweud y gwir.

PostioPostiwyd: Mer 14 Medi 2005 6:40 pm
gan 7ennyn
dafydd a ddywedodd:Wyt ti am roi y cod Javascript a CSS mewn ffeiliau allanol?


Nacydw! Dwi'n reit hoff o'r syniad o'i gael i gyd i ffitio mewn un pecyn 'self-contained' - gall pobl gadw'r ffeil ar eu cyfrifiadur eu hunain at eto heb orfod cysylltu a'r rhyngrwyd pob tro i lwytho'r CSS a'r sgript. Hefyd, ychydig iawn iawn o html 'plaen' sydd ynddo fo beth bynnag. Dwi ddim yn poeni os ydi pobl yn gallu gweld y cod - croeso iddyn nhw gael sbec os oes ganddyn nhw ddiddordeb. Diolch 'ti Dafydd am bwyntio allan y llythrennau sydd ddim yn dangos - wnes i ddim sylwi 'chan!

Hmmmm, RSS?? Dyna chdi syniad! Wnai sbio fewn i hynny yn sicr. Diolch Al (unwaith eto!).

Gobeithio 'mod i ddim yn swnio fel fy mod i'n grofylo hefo'r holl ddiolchiadau yma :wps: , ond dwi wirioneddol yn gwerthfawrogi'r adborth!

PostioPostiwyd: Sul 09 Hyd 2005 5:16 pm
gan Al
Sut mae pethau yn datblygu?

PostioPostiwyd: Sul 09 Hyd 2005 5:31 pm
gan 7ennyn
Dwi tua mis ar ei hol hi :wps: ! Dal i ffidlan o gwmpas hefo'r javaScript a 'chydig o broblemau CSS. Wrthi'n cynllunio'r graffeg - logo, cylyr sgim a ballu. Ddim ond ar benwythnosau ac ambell i gyda'r nos dwi'n gallu gweithio arno fo a dwi wedi bod yn brysur hefo pethau eraill yn ddiweddar, hynny a'r ffaith fy 'mod i ar 'learning curve' reit serth sy'n gyfrifol am yr oedi. Ydi'r cynnig i ddefnyddio dy we-weinydd i brofi'r PHP cyn i mi lawnsio yn dal yn gorad 'rhen fet? :winc:

Gai fwy o amser i ganolbwyntio arno fo o hyn ymlaen gobeithio.

PostioPostiwyd: Sul 09 Hyd 2005 5:39 pm
gan Al
7ennyn a ddywedodd: Ydi'r cynnig i ddefnyddio dy we-weinydd i brofi'r PHP cyn i mi lawnsio yn dal yn gorad 'rhen fet? :winc:

Gai fwy o amser i ganolbwyntio arno fo o hyn ymlaen gobeithio.


Wrth gwrs met :winc:

Falch i glywed mae pethau yn mynd yn ei flaen 8)

PostioPostiwyd: Llun 10 Hyd 2005 12:31 pm
gan Manon
Waw, ma hwn yn ACE! Da iawn chdi... Well fi drio ca'l petha' wedi'u gwneud rwan cyn i chdi lawnsio dy wefan achos mae o'n addictive ofnadwy! :lol: