Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Gwe 26 Awst 2005 11:08 am
gan sanddef
Does dim byd yn gweithio. Dw'i'm yn gweld unrhywle ar Irfan sydd o gymorth, a nid yw cymorth pphBB ddim o gymorth chwaith.

PostioPostiwyd: Gwe 26 Awst 2005 11:19 am
gan Ti 'di beni?
Gwna ffafr i chdi dy hun.

Esbonia yn union beth yw'r broblem, beth sydd fod i'w wenud (ond nid wyt ti'n deall), a be wyt ti eisiau gwneud.

Rho linc, efallai?

Ai fel y graffig 'maes-e, heb y barnu na'r cystadlu' ar frig y dudalen hon wyt ti'n feddwl?

Beni

PostioPostiwyd: Gwe 26 Awst 2005 12:41 pm
gan sanddef
Ti 'di beni? a ddywedodd:Gwna ffafr i chdi dy hun.

Esbonia yn union beth yw'r broblem, beth sydd fod i'w wenud (ond nid wyt ti'n deall), a be wyt ti eisiau gwneud.

Rho linc, efallai?

Ai fel y graffig 'maes-e, heb y barnu na'r cystadlu' ar frig y dudalen hon wyt ti'n feddwl?

Beni


Rhaid i'r baner fod yn 200 x 91 picsel, rhaid iddi gael URL gif neu jpg. Y problem yw nid wyf yn dod o hyd i unrhywle lle gallaf wneud baner sy'n gweithio, a dw'i wedi bod yn treulio dyddiau ceisio.
Sut/Lle gallaf wneud baner 200 x 91 picsel a chanddi URL gif neu jpg?

PostioPostiwyd: Gwe 26 Awst 2005 1:00 pm
gan dafydd
sanddef rhyferys a ddywedodd:Sut/Lle gallaf wneud baner 200 x 91 picsel a chanddi URL gif neu jpg?

Fe alli di ymweld a'r wefan yma, llwytha dy lun gwreiddiol i fyny.

Yna dewisa 'By Pixels' a dad-ticio Constrain. Rho 200 a 91 i'r blwch width/height a gwasgu Resize. Falle fydd hyn yn ymestyn y llun mewn ffordd od ond sdim ots am nawr. Fe fyddi di wedyn yn gallu cadw'r llun newydd nol i dy gyfrifiadur.

PostioPostiwyd: Gwe 26 Awst 2005 1:36 pm
gan sanddef
O'r diwedd!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!

Diolch yn fawr! :D