Tudalen 1 o 1

Archwilio'r Gofod yn Gymraeg

PostioPostiwyd: Mer 31 Awst 2005 4:01 pm
gan sanddef
Dw'i'n sefydlu blog o'r enw Goruwchofod (Hyperspace) i gyhoeddi adroddiadau am astronomeg ac archwiliad y gofod yn Gymraeg. Y syniad yw i gyfieithu adroddiadau i'r Gymraeg a bathu termau sydd a wnelo a'r materion hyn.
Hoffwn i wahodd unrhywun sydd a diddordeb yn y pwnc yma i gyfrannu at y blog. Dw'i wedi dwyn erthygl a sgwennais ar gyfer Lleisiau.com a'i phostio ar y blog fel enghraifft dros dro.

Re: Archwilio'r Gofod yn Gymraeg

PostioPostiwyd: Mer 31 Awst 2005 4:29 pm
gan dafydd
Grêt. Dwi'n rhoi rhai erthyglau am y gofod ar fy mlog. Wnes i erioed clywed am y gair 'chwiliedydd' o'r blaen.. felly chwiledydd wnes i ddefnyddio. Mae angen bathiad da am 'spacecraft' hefyd.. y pethau hynny sydd ddim yn 'long'.

PostioPostiwyd: Mer 31 Awst 2005 4:40 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Cwl. Peryg na fyswn i'n gallu cyfrannu llawer, ond dwi'n eitha hoffi darllen am betha felna :) Ddoth Sion Corn a thelisgôp go-iawn acw un flwyddyn...

Re: Archwilio'r Gofod yn Gymraeg

PostioPostiwyd: Gwe 02 Medi 2005 2:27 pm
gan sanddef
dafydd a ddywedodd:Grêt. Dwi'n rhoi rhai erthyglau am y gofod ar fy mlog. Wnes i erioed clywed am y gair 'chwiliedydd' o'r blaen.. felly chwiledydd wnes i ddefnyddio. Mae angen bathiad da am 'spacecraft' hefyd.. y pethau hynny sydd ddim yn 'long'.


Iawn. Gad sylwad ar y blog ac fe wnaf i gofrestru dy blogenw fel y gelli gael mynedfa i'r blog.

PostioPostiwyd: Gwe 07 Hyd 2005 8:53 pm
gan Waen
Rhag ofn y bod o ...o diddordeb!

Astronomy mag Now Oct 2005
http://rapidshare.de/files/5953673/www.BluePortal.org_Astro_Now_Oct_2005.rar.html

PostioPostiwyd: Sad 08 Hyd 2005 12:36 am
gan HBK25
Dwi'n meddwl bod pawb hefo rhyw fath o ddidordeb naturiol yn y gofod - mae'r cysyniadau yn wirioneddol "mind blowing" weithiau. Yr holl planedau (creaduriaid hefyd?) sydd i'w darganfod eto - gwych.

Da iawn am ceisio hybu trafodaeth o'r pwnc yn y Gymraeg a phob lwc! :D