Tudalen 1 o 1

newydd sbon

PostioPostiwyd: Iau 08 Medi 2005 10:06 pm
gan newydd sbon
Yr ydywf ar fin lawnsio cylchlythyr Cymraeg ei hiaith.

Bydd y cylchlythyr yn cynnwys newyddion am bethau a ystyrir yn ddiwylliannol, yn wahanol ac yn 'cwl'.

Fydd popeth yn y Gymraeg, ac ar hyn o bryd, y bwriad yw ei chyhoeddi yn fisol.

Felly i dderbyn y cylchlythyr yma, gyrrwch unai neges breifat gyda'ch cyfeiriad ebost ac enw os hoffwch; neu gyrrwch ebost gyda "newydd sbon" fel pwnc i'r neges i

newyddsbon@gmail.com

ar bob achlysur cewch y dewis i dynnu eich hun oddi ar yr ochr dderbyn.

Fel y dywedir, fydd y cylchlythyr yn "rhad ac am ddim".

Diolch

PostioPostiwyd: Gwe 09 Medi 2005 7:58 am
gan HenSerenSiwenna
A yw hyn yn fenter personol gen ti wneu wyt ti'n rhan o ryw cwmni/ mudiad?

Pob hwyl eniwe - edrychaf ymlaen at derbyn fyng nghopi yn rhad ac am ddim :winc:

PostioPostiwyd: Gwe 09 Medi 2005 8:28 am
gan newydd sbon
Menter personol ydyw, ond dwi'n gobeithio gweithio gyda chefnogaeth grwp.

Bosib fy mod heb esbonio un peth: cylchlythyr annibynnol ei naws. Felly does arnom dim i'w wneud ag unrhyw mudiad na chwmni.


Beth yw dy gyfeiriad ebost SerenSiwenna? Neges breifat neu ebost at newyddsbon@gmail.com os gwelwch yn dda.

PostioPostiwyd: Gwe 09 Medi 2005 8:37 am
gan HenSerenSiwenna
neshi anfon e bost i'r cyfeiriad - os ti'm yn cael e gyra neges breifat a wnai anfon y cyfeiriad nol mewn un :winc: