A chwaraei di wyddbwyll?

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Robin Banks » Llun 05 Rhag 2005 9:25 pm

Oes, dos i http://www.maes-e.com/viewtopic.php?t=14676&postdays=0&postorder=asc&start=0, dos i lawr riw ychydig, weli di rhywyn a'r run broblem a chdi yno, a dilyn y cyfarwyddiadau yna. Neu gei di fynd i'r dudalen flaen gwyddbwyll.com, cyn i chdi fewn gofnodi a mae'n na linc yn fanna. :winc:
Gwena mae Iesu yn dy garu
Mae pawb arall yn meddwl dy fod yn dwat
Rhithffurf defnyddiwr
Robin Banks
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 67
Ymunwyd: Mer 26 Hyd 2005 9:55 pm
Lleoliad: Morfa Nefyn

Postiogan Dwi'n gaeth i gaws » Iau 02 Chw 2006 1:27 pm

ooooooooo diar! newydd ddechra. andros o rhydlyd ogia bach. plis byddwch yn amyneddgar. :ofn: :winc:
blew
Rhithffurf defnyddiwr
Dwi'n gaeth i gaws
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 782
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 6:38 pm
Lleoliad: yn y dwr

Postiogan sian eirian » Sad 11 Chw 2006 11:51 pm

Ro'n in chwarae efo plant fy chwaer y pnawn ma ac yn defnyddio 'gwerin' am y darna, Macsen oedd y brenin gwyn ac Edward y 1af oedd y brenin du. Helen oedd y frenhines wen a 'hen gotsen front' oedden nhw'n galw'r frenhines ddu.


Ond be ddiawl ydy 'en passant' (sillafu?) yn Gymraeg? Dwi'm yn gweld dim o'i le mewn defnyddio'r Ffrangeg, fy hun, oni bai bod na hen derm cynhenid, naturiol.

'Naid gafr', efallai?
sian eirian
Cerdyn Coch
Cerdyn Coch
 
Negeseuon: 118
Ymunwyd: Iau 26 Ion 2006 10:39 pm
Lleoliad: BANGOR

Postiogan HBK25 » Sul 12 Chw 2006 3:05 am

ga i jyst dweud, roeddwn i'n ffansio Sian Eirian yng ngholeg. Roedd hi'n uffernol o rhywiol. Diolch yn fawr! :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Postiogan Tegwared ap Seion » Sul 12 Chw 2006 9:48 am

:lol: edefyn i'r meddw, hbk?
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Dewi Bins » Mer 19 Ebr 2006 5:04 pm

Enillwyd 5 (8.06%)
Collwyd 56



Dwim yn dda iawn fel y gwelwch.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Dewi Bins
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 309
Ymunwyd: Iau 29 Rhag 2005 9:57 pm
Lleoliad: Porthmadog

Postiogan Jac Glan-y-gors » Maw 16 Mai 2006 4:13 pm

sian eirian a ddywedodd:Ro'n in chwarae efo plant fy chwaer y pnawn ma ac yn defnyddio 'gwerin' am y darna, Macsen oedd y brenin gwyn ac Edward y 1af oedd y brenin du. Helen oedd y frenhines wen a 'hen gotsen front' oedden nhw'n galw'r frenhines ddu.


Ond be ddiawl ydy 'en passant' (sillafu?) yn Gymraeg? Dwi'm yn gweld dim o'i le mewn defnyddio'r Ffrangeg, fy hun, oni bai bod na hen derm cynhenid, naturiol.

'Naid gafr', efallai?


Mae termau gwyddbwyll Cymraeg safonol ar gael ac mae rheswm dros y dewis o derm:

King = Teyrn (T)
Queen = Brenhines (B)
Bishop = Esgob (E)
Knight = Marchog (M)
Rook = Castell (C)
Pawn = Gwerinwr

Mae nifer o aelodau tim gwyddbwyll Cymru erbyn hyn yn cofnodi eu gemau drwy ddefnyddio nodiant Cymraeg ee Bb1 (symud y Frenhines i sgwar b1). Dyna pam mae Teyrn yn cael ei ddefnyddio yn lle Brenin gan y byddai'n cymysgu gyda Brenhines ee Tb1 etc.. Does dim angen symbol ar y Gwerinwr - pan yn symud gwerinwr o sgwar a2 i a4 y nodiant yw a2-a4 (!)

Mae en passant yn cael ei ddefnyddio gan chwaraewyr Cymraeg, a Siach am Check a Siachmat am Checkmate - sy'n agos at y gwreiddiol (yn ôl Wikipedia datblygodd y gair siach drwy Arabeg o Bersieg: shāh = "teyrn"). Nodiant wrth gofnodi Siach yw + ee Marchog ar e5 yn symud i e3 i roi Siach - Me5-d3+. Mae'r term J'adoube yn cael ei ddefnyddio pan yn cyffwrdd mewn darn i'w roi yn drefnus ar sgwar heb y bwriad o'i symud - mae llawer o anghytuno am darddiad hwn - ond ia-dwwb yw'r ynganiad.

Wrth reswm mae'r nodiant Cymraeg yn cael ei ddefnyddio ar gwyddbwyll.com. :D
Rhithffurf defnyddiwr
Jac Glan-y-gors
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 241
Ymunwyd: Sul 20 Gor 2003 3:05 pm
Lleoliad: Dyffryn Aeron

Postiogan Selador » Iau 01 Meh 2006 4:31 pm

Mae Gwyddbwyll.com yn ofnadwy o araf imi. Bob tro dwi'n clicio ar linc oddi fewn i'r wefan mae popeth dwi'n neud ar y we yn rhewi am tua 8 eiliad. Dydi hyn ddim yn digwydd efo dim un safle we arall. Unrhyw awgrymiadau?
(Dwi'n amau mai fy nghyflennwr Broadband, Tiscali, sydd ar fai)
Just one more sucker on the vine
Rhithffurf defnyddiwr
Selador
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1721
Ymunwyd: Sul 18 Ebr 2004 9:32 pm
Lleoliad: Pen Llyn/Bryste

Postiogan Jac Glan-y-gors » Mer 07 Meh 2006 1:58 pm

Selador a ddywedodd:Mae Gwyddbwyll.com yn ofnadwy o araf imi. Bob tro dwi'n clicio ar linc oddi fewn i'r wefan mae popeth dwi'n neud ar y we yn rhewi am tua 8 eiliad. Dydi hyn ddim yn digwydd efo dim un safle we arall. Unrhyw awgrymiadau?
(Dwi'n amau mai fy nghyflennwr Broadband, Tiscali, sydd ar fai)


Rwy inne'n ame mai problem cyflenwr yw hwn. Mae gwyddbwyll.com yn enw ailgyfeirio - efallai byddai pethau'n cyflymu o ddefnyddio'r cyfeiriad gwreiddiol ar http://www.dyffrynaeron.org/gwyddbwyll ??
Rhithffurf defnyddiwr
Jac Glan-y-gors
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 241
Ymunwyd: Sul 20 Gor 2003 3:05 pm
Lleoliad: Dyffryn Aeron

Postiogan Selador » Mer 07 Meh 2006 4:07 pm

Diolch am y tip Jac, ond dwi wedi trio hynny'n barod a ni wnaeth weithio. Ma Gwyddbwyll a haul yn cymysgu'n dda yn tydi?
Just one more sucker on the vine
Rhithffurf defnyddiwr
Selador
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1721
Ymunwyd: Sul 18 Ebr 2004 9:32 pm
Lleoliad: Pen Llyn/Bryste

NôlNesaf

Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai