Gwefan newydd ar http://www.gwyddbwyll.com sy'n defnyddio cyfieithiad Cymraeg (bron a bod yn gyflawn) o CompWebChess - prosiect cod agored ar Sourceforge.
Cer ati i greu cyfri a chwarae - mae'n rhad ac am ddim!
Cynnwys:
* rhyngwyneb graffegol deniadol
* chwarae byw neu dros gyfnod hirach
* sgyrsio wrth chwarae
* ystafell sgyrsio ar wahan
* graddio chwaraewyr
* gosod chwaraewyr yn nhrefn teilyngdod
* gallu creu twrnameintiau
* gallu creu timau
* cofnodi gemau
* llwytho cofnod o gemau
* dadansoddi gemau
* cynnig ildio a chynnig gem gyfartal
* dealltwriaeth lawn o Siach, Siachmad, en passant, methmat heblaw am un neu ddau fyg
* cloc sy'n cofnodi amser - ond nid yw'n gloc gwyddbwyll
* dau gyfri dros dro i ti brofi'r system
* dyfyniadau gan wyddbwyllwyr a beirdd Cymraeg, o Kasparov i John Morris-Jones, o Capablanca i Steffan Cravos!
Ar y gweill: * chwarae'n erbyn cyfrifiadur yn fyw ar y we
* cloc gwyddbwyll
Os fydd llawer yn ymuno bydd yn fwy tebygol i ti fedru chwarae'n fyw. Wedi creu'r safle i gael chwarae yn erbyn ffrind sy'n byw yng Nghaerdydd!