Cyn i neb ddweud dim, oedd, roedd yn benwythnos anffodus i gynnal twrnament, ond fe aeth yn dda iawn. Mae cael penwythnos rhydd yn yr Haf fydd yn cadw pawb yn hapus yn anodd iawn ...
http://www.llearywe.co.uk/blogwyddbwyll/?p=37
Enillwyd y Twrnament gan Adam May, un o chwarwewyr gwyddbwyll cryfaf De Cymru, ac un sydd wedi chwarae yn erbyn rhai o Uwchfeistri Gwyddbwyll. Mae'n dysgu Cymraeg ac yn defnyddio gwyddbwyll.com i'w helpu i wneud hynny.
Gobeithio y bydd mwy o sesiynau dros y bwrdd yn cael eu trefnu'n lleol gan aelodau'r wefan. Os am gyngor ar sut i fynd ati, gallwch anfon neges breifat at KOJAK ar gwyddbwyll.com.