Cymedrolwr: Rhys
sian eirian a ddywedodd:Ro'n in chwarae efo plant fy chwaer y pnawn ma ac yn defnyddio 'gwerin' am y darna, Macsen oedd y brenin gwyn ac Edward y 1af oedd y brenin du. Helen oedd y frenhines wen a 'hen gotsen front' oedden nhw'n galw'r frenhines ddu.
Ond be ddiawl ydy 'en passant' (sillafu?) yn Gymraeg? Dwi'm yn gweld dim o'i le mewn defnyddio'r Ffrangeg, fy hun, oni bai bod na hen derm cynhenid, naturiol.
'Naid gafr', efallai?
Selador a ddywedodd:Mae Gwyddbwyll.com yn ofnadwy o araf imi. Bob tro dwi'n clicio ar linc oddi fewn i'r wefan mae popeth dwi'n neud ar y we yn rhewi am tua 8 eiliad. Dydi hyn ddim yn digwydd efo dim un safle we arall. Unrhyw awgrymiadau?
(Dwi'n amau mai fy nghyflennwr Broadband, Tiscali, sydd ar fai)
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai