Tudalen 9 o 9

Pencampwriaeth dros y bwrdd gwyddbwyll.com

PostioPostiwyd: Maw 25 Gor 2006 12:37 pm
gan Jac Glan-y-gors
Cyn i neb ddweud dim, oedd, roedd yn benwythnos anffodus i gynnal twrnament, ond fe aeth yn dda iawn. Mae cael penwythnos rhydd yn yr Haf fydd yn cadw pawb yn hapus yn anodd iawn :( ...

http://www.llearywe.co.uk/blogwyddbwyll/?p=37

Enillwyd y Twrnament gan Adam May, un o chwarwewyr gwyddbwyll cryfaf De Cymru, ac un sydd wedi chwarae yn erbyn rhai o Uwchfeistri Gwyddbwyll. Mae'n dysgu Cymraeg ac yn defnyddio gwyddbwyll.com i'w helpu i wneud hynny.

Gobeithio y bydd mwy o sesiynau dros y bwrdd yn cael eu trefnu'n lleol gan aelodau'r wefan. Os am gyngor ar sut i fynd ati, gallwch anfon neges breifat at KOJAK ar gwyddbwyll.com.

PostioPostiwyd: Sad 19 Awst 2006 4:39 pm
gan Ari Brenin Cymru
Welodd rhywun yr erthygl yn y Ffynon neu'r Wylan, dim yn siwr pa un, amdan gwyddbwyll.com? Roedd na hefyd son amdan y wefan yng nghyfweliad Y Ffyrc yn y Selar wythnos y sdeddfod.

PostioPostiwyd: Gwe 01 Meh 2007 8:29 pm
gan Jac Glan-y-gors
Diwrnod du yng Nghaerfyrddin, tri yn rhannu'r wobr, a Dafydd Wigley!

http://www.llearywe.co.uk/blogwyddbwyll/?p=43

PostioPostiwyd: Iau 19 Gor 2007 8:06 pm
gan GringoOrinjo
Dwi'n meddwl y dylid ychwanegu botwm i rewi'ch holl gemau am gyfnod, fel nad yda chi'n colli os da chi ddi myn gallu chwara am fwy na wsos, megis pan dachi'n mynd ar wylia, neu ma'r sod compitar yn malu.
A dwi hefyd yn awgrymu "Botwm Iwaneiddio" fel enw iddo.

PostioPostiwyd: Maw 31 Gor 2007 7:44 am
gan Jac Glan-y-gors
GringoOrinjo a ddywedodd:Dwi'n meddwl y dylid ychwanegu botwm i rewi'ch holl gemau am gyfnod, fel nad yda chi'n colli os da chi ddi myn gallu chwara am fwy na wsos, megis pan dachi'n mynd ar wylia, neu ma'r sod compitar yn malu.
A dwi hefyd yn awgrymu "Botwm Iwaneiddio" fel enw iddo.

Mae wedi cael ei awgrymu o'r blaen ond ar hyn o bryd byddai'n golygu gormod o waith addasu'r côd. Os wnei di symud ddiwrnod cyn mynd ar dy wyliau, ac unwaith yn ystod dy wyliau, yna mae'n bosib i ti gael gwyliau 13 diwrnod heb golli gêm! Mae tipyn o waith cudd yn digwydd ar y safle ar hyn o bryd, ar y gronfa ddata a'r côd i geisio cyflymu amser llwytho tudalennau.

Bydd fersiwn newydd o'r meddalwedd yn cael ei ryddhau rywbryd eleni sy'n cynnwys modiwl gwyliau fel rwyt ti'n awgrymu. Byddwn bryd hynny yn edrych ar fudo i hwn os yw'n bosib gwneud hynny heb golli'r wybodaeth sydd gennym yn y gronfa ddata - y 6,500 gêm sydd wedi gorffen yn barod ayb. Mae'r fersiwn hwnnw'n fersiwn beta ar hyn o bryd - mwy o wybodaeth fan hyn: http://www.compwebchess.com/cms/index.php