Wicipedia yn y Gymraeg
Postiwyd: Maw 15 Gor 2003 4:09 pm
Unrhywun gyda diddordeb adeiladu gwyddoniadur rhydd? Hynny yw, gwyddoniadur ar lein sy'n cael ei adeiladu gan y bobl sy'n defnyddio fe.
Gwerinwr a ddywedodd:Mae posibiliadau mawr i'r fenter hon ond ar hyn o bryd y mae prinder dimensiwn Cymreig a Chymry Cymraeg sicr eu iaith.
Mae'n ymddangos mai dysgwyr yw y rhan fwyaf o'r cyfranwyr a chwarae teg iddynt ond cyfieithu llythrennol yw y rhan fwyaf.
I'r fenter i fod yn llwyddiannus rhaid cael mwy o Gymry Cymraeg gyda chrap ar ramadeg y Gymraeg, ac hefyd sydd a chefndir o'r bywyd Cymreig. Mae ar hyn o bryd fel cyfieithiad o wyddioniadur Prydeinig.
Gwerinwr