Wicipedia yn y Gymraeg

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Wicipedia yn y Gymraeg

Postiogan Duw » Mer 05 Maw 2008 6:28 pm

Dwi newydd wedi cael brainwef - mae gennyf fyfyrwyr chweched dosbarth sy'n stryglo i ffeindio pynciau addas ar gyfer eu portffolios sgiliau allweddol (cyfathrebu, TGCh). Beth am ofyn iddynt greu wici yr un? Os oedd sawl Ysgol Gyfun Gymraeg yn gallu cael rhyw 50+ myfyriwr yr un i wneud cyfraniad, bydd cy.wicipedia.org yn chwyddo'n gyflym. Pwy a wyr, efallai bydde rhai o nhw am gyfrannu'n gyson ar ol y profiad cyntaf? :gwyrdd:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Wicipedia yn y Gymraeg

Postiogan Rhys » Iau 06 Maw 2008 1:35 pm

Duw a ddywedodd:Dwi newydd wedi cael brainwef - mae gennyf fyfyrwyr chweched dosbarth sy'n stryglo i ffeindio pynciau addas ar gyfer eu portffolios sgiliau allweddol (cyfathrebu, TGCh). Beth am ofyn iddynt greu wici yr un?


Dwi ddim yn gweld pam lai. Byddwn yn gofyn iddynt greu erthygl yr un a nid wici ei hun i ddechrau :winc:
Byddai'n well ei gynnig fel awgrym yn hytrach na dweud bod rhaid iddynt wneud, ohwerydd cryfder Wicipedia yw bod pobl pobl yn cyfrannu ato gan eu bod yn credu yn y cysyniad. Petai rhai'n gorfod gwneud a ddim eisiau, mae peryg iddynt ei sbwylio'n fwriadol.

Duw a ddywedodd:Os oedd sawl Ysgol Gyfun Gymraeg yn gallu cael rhyw 50+ myfyriwr yr un i wneud cyfraniad, bydd cy.wicipedia.org yn chwyddo'n gyflym. Pwy a wyr, efallai bydde rhai o nhw am gyfrannu'n gyson ar ol y profiad cyntaf? :gwyrdd:


Mae rhai Wicipedias mewn ambell iaith yn creu targedau penodol fel (20,000 erthygl Catalaneg erbyn diwedd 2007 e.e.), felly byddai unrhyw gynnydd yn beth da, ond eto dim ond os yw pobl wir eisiau gwneud. Fel ti'n deud, efallai byddai ysgrifennu un erthygl yn annog nhw i wenud mwy ar ôl gwled pa mor hawdd ydi o.
Dwi hefyd yn meddwl bod sgôp i athrawon gyfrannu. Sut fyddai'r ffordd orau o geisio dod a rhywbeth fel hyn at sylw athrawon. Ydi aelodau UCAC yn derbyn cylchlythyr y gelli'r cynnwys erthygl ynddo, neu fyddai hynny ddim yn addas? Gelli'r trefnu (a byddwn i'n fodlon gwneud) bod arddangosfa/cyflwyniad ar sut i olygu'r Wicipedia ar gael i athrawon yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Be ti'n feddwl?
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Wicipedia yn y Gymraeg

Postiogan Duw » Iau 06 Maw 2008 2:43 pm

Sori Rhys, cymysgais y termau erthygl a wici. Enghreifftiau mewn golwg oedd pethe fel, myfyrwyr cemeg yn cyfrannu at y Tabl Cyfnodol gan ysgrifennu erthygl ar elfen arbennig. NId gorfodi myfyrwyr ond eu hannog. Gwobrwyo (sgiliau allweddol) am eu gwaith. Dwi meddwl gwnaf gyfeirio fy myfyrwyr i gyfrannu beth bynnag (gwirfoddol) - gallant chwarae eu rhan dros yr iaith!
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Wicipedia yn y Gymraeg

Postiogan Rhys » Gwe 07 Maw 2008 1:13 pm

Duw a ddywedodd:Enghreifftiau mewn golwg oedd pethe fel, myfyrwyr cemeg yn cyfrannu at y Tabl Cyfnodol gan ysgrifennu erthygl ar elfen arbennig.


Byddai hynny yn ddefnyddiol iawn gan bod tipyn o fylchau ymysg yr adran Gwyddoniaith ar Rhestr erthyglau sy'n angenrheidiol ym mhob iaith. Mae rhestr http://cy.wikipedia.org/wiki/Arbennig:W ... sErthyglau sydd eu hangen (erthyglau sydd ddim yn bodoli eto ond bod defnyddwyr eraill wedi cyfeirio a chreu dolen atynt o fewn erthyglau eraill) yn fan da i ddod o hyd i ysbrydiaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Wicipedia yn y Gymraeg

Postiogan Llywelyn Foel » Sul 08 Ion 2012 5:32 pm

Whaw! Dw i newydd gael golwg arno - mae na 35,000 o erthyglau'n bodoli bellach! Ac mae'r Tabl Cyfnodol yn edrych yn llawn! Cofiwch, dwi'n credu fod dal llawer o lefydd da lle y gall disgyblion 6ed dosbarth gyfrannu. Sa 'm ots am y fformatio; pan rois i stwff arno mi gath hynny ei wneud gan rywun o fewn chydig oriau! Rhyw dylwythen deg efallai...
'Nemo sine vitio est'
(Heb ei fai, heb ei eni)
Rhithffurf defnyddiwr
Llywelyn Foel
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 25
Ymunwyd: Sad 24 Tach 2007 10:53 pm
Lleoliad: Llanrwst

Nôl

Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron