Postiais ymateb hir i hwn rai dyddiau'n ôl ond diflannodd.
Dwi'n meddwl gall y Wicipedia fod yn adnodd defnyddiol iawn i athrawon/disgyblion cyfrwng Cymraeg gan fod prinder o adnoddau ar gael yn Gymraeg. Cytuno rhaid i'r iaith fod yn gywir ac eto ddim yn rhy ffurfiol. Yn bersonol dwi'n meddwl bod y Wicipedia'n cael y cydbwysedd yn iawn o be dwi'n sylwi. Mae yna dudalen
Cymorth Iaith a Chanllawiau Iaith
Mae'r Wicipedia'n croesawu cyfraniadau gan pobl o bob gallu, ond os digwydd i rhwyun osod erthygl ymlaen sy'n llawn gwallau ieithyddol neu ffeithiol, yna mae'n cael ei gywiro'n syth gan ddefnddiwr arall. Fel rheol mae Gweinyddwyr neu defnyddiwyr yn cadw llygad ar
Erthyglau Newydd neu
Newidiadau Diweddar.Sut galli di helpu?
Mae digonedd o dasgau i'w gwneud, dyma engrheifftiau:
Creu erthygl newydd neu wella erthyglGall fod am unrhywbeth,
-hobi sydd gyda ti,
-dy filltir sgwar
-pwnc sy'n cael ei astudio yn y dosbarth ar y pryd
-Edrych ar
List of articles every Wikipedia should have
Ddim yn teimlo'n hyderus dechrau erthygl o'r newydd?-Clicio
Erthygl ar hap ac ehangu'r erthygl
-Cyfieithu erthygl o'r Saeseng
-Cywiro sillafu erthyglau newydd
Trefnu erthyglau fel ei fod yn haws i bobl ddod ar draws erthyglau perthnasol
-Gosod erthyglau presenol mewn
categorïau priodol
-Rhoi dolenni croes gyfeirio (cross referencing) o fewn erthygl a rhyngwici (interwiki)[/list]
Gobeithio bod y wybodaeth uchod o help. Efallai bod golygu tudalen am y tro cyntaf yn gallu ymddangos yn gymlaeth, ond does dim i'r peth, ac hyd yn oed os ti'n gwneud camgymeriad, mater bach aiwn yw newid popeth yn ôl i sut oedd o, gyda opsiwn 'dadwnued'.
Croeso i ti adael unrhyw gwestiynnau eraill yma new mewn NP.