Tudalen 1 o 3

Wicipedia yn y Gymraeg

PostioPostiwyd: Maw 15 Gor 2003 4:09 pm
gan nicdafis
Unrhywun gyda diddordeb adeiladu gwyddoniadur rhydd? Hynny yw, gwyddoniadur ar lein sy'n cael ei adeiladu gan y bobl sy'n defnyddio fe.

PostioPostiwyd: Gwe 09 Ebr 2004 1:26 am
gan marnanel
ac heddiw mae 1000 o erthyglau yn Wicipedia!

PostioPostiwyd: Gwe 09 Ebr 2004 10:39 am
gan nicdafis
Waw, mae hynny wedi tyfu tipyn bach. Rhaid i mi ddechrau cyfrannu. A golygu.


Gol. Trwsio'r ddolen.

PostioPostiwyd: Iau 22 Ebr 2004 11:25 am
gan Gwerinwr
Mae posibiliadau mawr i'r fenter hon ond ar hyn o bryd y mae prinder dimensiwn Cymreig a Chymry Cymraeg sicr eu iaith.

Mae'n ymddangos mai dysgwyr yw y rhan fwyaf o'r cyfranwyr a chwarae teg iddynt ond cyfieithu llythrennol yw y rhan fwyaf.

I'r fenter i fod yn llwyddiannus rhaid cael mwy o Gymry Cymraeg gyda chrap ar ramadeg y Gymraeg, ac hefyd sydd a chefndir o'r bywyd Cymreig. Mae ar hyn o bryd fel cyfieithiad o wyddioniadur Prydeinig.

Gwerinwr

PostioPostiwyd: Iau 22 Ebr 2004 2:33 pm
gan nicdafis
Bant â ti, 'te. ;-)

PostioPostiwyd: Mer 27 Hyd 2004 12:22 pm
gan nicdafis
Erthygl dda yn y Guardian ddoe.

PostioPostiwyd: Mer 03 Tach 2004 4:49 pm
gan Mali
Diolch am y wefan.....diddorol iawn. :)
Mali.

PostioPostiwyd: Mer 03 Tach 2004 6:53 pm
gan nicdafis
Llawer o erthyglau newydd yn ymddangos yna yn diwetha. Lot o stwff am y SRG, er enghraifft.

PostioPostiwyd: Mer 14 Rhag 2005 1:31 am
gan Macsen
Mae angen twchu y stwbyn am Maes-E tipyn bach. :)

PostioPostiwyd: Gwe 21 Ebr 2006 5:56 pm
gan garik
Gwerinwr a ddywedodd:Mae posibiliadau mawr i'r fenter hon ond ar hyn o bryd y mae prinder dimensiwn Cymreig a Chymry Cymraeg sicr eu iaith.

Mae'n ymddangos mai dysgwyr yw y rhan fwyaf o'r cyfranwyr a chwarae teg iddynt ond cyfieithu llythrennol yw y rhan fwyaf.

I'r fenter i fod yn llwyddiannus rhaid cael mwy o Gymry Cymraeg gyda chrap ar ramadeg y Gymraeg, ac hefyd sydd a chefndir o'r bywyd Cymreig. Mae ar hyn o bryd fel cyfieithiad o wyddioniadur Prydeinig.

Gwerinwr


Dw i'n cytuno'n llwyr. Dw i wedi golygu 'chydig o erthyglau fy hun - mi oedd rhai ohonynt yn annarllenadwy. Mae hyn yn rhwybeth y gall pawb wneud sy'n eithaf sicr eu iaith, heb orfod gweithio gormod ('sdim angen creu rhwybeth newydd beth bynnag)!