Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Gwe 21 Ebr 2006 8:21 pm
gan blanced_oren
Dwi wedi cyfrannu yn y gorffen ond dwi ddim cweit yn deall shwd i roi'r fformat iawn ar dudalennau a chynnwys lluniau.

PostioPostiwyd: Sul 10 Rhag 2006 5:50 pm
gan Huw T
Gai bostio'r edefyn yma nol i'r top, i fwy gael ei weld. Fi'n meddwl fod hwn yn brosiect gwerth chweil, a phetai pob aelod o'r maes ond yn ysgrifennu dwy erthygl, byddai'n dod cynnyddu'r nifer i dros 10,000 erthygl.

(Nic, wyt ti'n meddwl falle bod werth symud/dyblu'r erthygl yma mewn seiadau mwy 'poblogaidd' fel Materion Cymru e.e? Meddwl o ni fod y cyfanswm 'gweld' yn eitha isel i gymharu gyda erthygle erill)

PostioPostiwyd: Gwe 22 Rhag 2006 12:13 am
gan Hazel
Da yw Wicipedia yn y Gymraeg. Dyma un ffordd arall i ddangos mai iaith fyw yw'r Gymraeg. Hefyd, mae'n gyfle i taenu'r hanes o Gymru bellach -- i ddangos y cyflawniadau o Gymru.

PostioPostiwyd: Mer 27 Rhag 2006 10:28 pm
gan Sion Jobbins
.. hoffi'r ail-wampiad - edrych yn well ac yn haws i'w ddarllen. da iawn pwy bynnag wnaeth e! :D

PostioPostiwyd: Llun 05 Chw 2007 7:43 am
gan sanddef
Wedi treulio'r penwythnos yn trosglwyddo erthyglau fy mlogiau ('goruwchofod' ac 'e-clectig') i Wici, a golygu sawl erthygl arall. Lot o hwyl.
Mae categoriau Cysawd yr Haul a Lloerennau wedi tyfu fel canlyniad.

PostioPostiwyd: Llun 05 Chw 2007 1:08 pm
gan Hazel
Diolch yn fawr. Mi fyddaf yn brysur yn nghategori "Cysawd yr Haul a Lloerennau" drwy'r dydd. Hazel

Re:

PostioPostiwyd: Mer 20 Chw 2008 3:01 pm
gan garynysmon
Gwerinwr a ddywedodd:Mae'n ymddangos mai dysgwyr yw y rhan fwyaf o'r cyfranwyr a chwarae teg iddynt ond cyfieithu llythrennol yw y rhan fwyaf.


Dwnim os ydi hynny yn beth drwg o reidrwydd chwaith. Dwi wedi bod eitha prysur yn ddiweddar yn creu tudalen neu ddwy am yr Undeb Sofietaidd am mod i wedi bod yn darllen ychydig amdano yn ddiweddar. Ond dwi mwy parod i ychwanegu gwybodaeth i dudalen sy'n bodoli'n barod (e.e Clybiau Pel-Droed Cymru) na chreu un newydd bob tro.

Mae na ormod o Stubs i gymharu gyda'r Saesneg, ond mae'r golygyddion potensial yn hwnnw yn y Biliynau yn hytrach na'r Miloedd yma'n Nghymru.

Oes na rhywyn yn gwybod beth ydi ffigyrau darllen y Wici Cymraeg?

Re:

PostioPostiwyd: Iau 21 Chw 2008 4:01 pm
gan Rhys
Dwi ddim yn meddwl bod ystageau felly ar gael, ond mae lot o ystadegau eraill

Gwerinwr a ddywedodd:Mae'n ymddangos mai dysgwyr yw y rhan fwyaf o'r cyfranwyr a chwarae teg iddynt ond cyfieithu llythrennol yw y rhan fwyaf.


O ran y rhai sy'n cyfrannu'n rheolaidd (h.y. yn wythnosol) byddwn yn dweud mai siaradwyr Cymraeg iaith Cyntaf yw'r mwyafrif, ond o'r 900+ sydd wedi cofrestru does wbod beth yw'r proffil iaith.

Biti na fuasai mwy yn gwneud.

Re: Wicipedia yn y Gymraeg

PostioPostiwyd: Gwe 22 Chw 2008 10:55 pm
gan Duw
Rwy'n cwympo ar fy mai - heb gyfrannu i'r wici Cymraeg eto. Un peth sy'n fy mhoeni - a oes angen postio canllawiau iaith? Fel athro, rwyf yn poeni bod "iaith uchel heb angen" yn gallu rhoi nifer o ddisgyblion / myfyrwyr i chwilio am eiriadur pob dwy funud. Er fy mod yn teimlo'n gryf ynglyn a Chymraeg cywir, os yw'r fenter hon yn mynd i fod yn lwyddiant - bydd angen mynediad ar gyfer plant, dysgwyr a'r rheini 'da "Chymraeg Carreg Calch". Mae'r canllawiau Cymraeg Clir yn lle da i ddechrau. Mae geiriau technegol yn un peth, ond mae tafodiaith, ffurfiau amhersonol ac ati, yn gallu lladd erthygl. Y peth diwethaf sydd eisiau yw rhyw fath o heddlu iaith, ond yn fy marn i mae mynediad yn hollbwysig.

Re: Wicipedia yn y Gymraeg

PostioPostiwyd: Gwe 29 Chw 2008 5:28 pm
gan Rhys
Postiais ymateb hir i hwn rai dyddiau'n ôl ond diflannodd.

Dwi'n meddwl gall y Wicipedia fod yn adnodd defnyddiol iawn i athrawon/disgyblion cyfrwng Cymraeg gan fod prinder o adnoddau ar gael yn Gymraeg. Cytuno rhaid i'r iaith fod yn gywir ac eto ddim yn rhy ffurfiol. Yn bersonol dwi'n meddwl bod y Wicipedia'n cael y cydbwysedd yn iawn o be dwi'n sylwi. Mae yna dudalen Cymorth Iaith a Chanllawiau Iaith

Mae'r Wicipedia'n croesawu cyfraniadau gan pobl o bob gallu, ond os digwydd i rhwyun osod erthygl ymlaen sy'n llawn gwallau ieithyddol neu ffeithiol, yna mae'n cael ei gywiro'n syth gan ddefnddiwr arall. Fel rheol mae Gweinyddwyr neu defnyddiwyr yn cadw llygad ar Erthyglau Newydd neu Newidiadau Diweddar.

Sut galli di helpu?

Mae digonedd o dasgau i'w gwneud, dyma engrheifftiau:

Creu erthygl newydd neu wella erthygl
Gall fod am unrhywbeth,
-hobi sydd gyda ti,
-dy filltir sgwar
-pwnc sy'n cael ei astudio yn y dosbarth ar y pryd
-Edrych ar List of articles every Wikipedia should have

Ddim yn teimlo'n hyderus dechrau erthygl o'r newydd?

-Clicio Erthygl ar hap ac ehangu'r erthygl
-Cyfieithu erthygl o'r Saeseng
-Cywiro sillafu erthyglau newydd

Trefnu erthyglau fel ei fod yn haws i bobl ddod ar draws erthyglau perthnasol
-Gosod erthyglau presenol mewn categorïau priodol
-Rhoi dolenni croes gyfeirio (cross referencing) o fewn erthygl a rhyngwici (interwiki)[/list]


Gobeithio bod y wybodaeth uchod o help. Efallai bod golygu tudalen am y tro cyntaf yn gallu ymddangos yn gymlaeth, ond does dim i'r peth, ac hyd yn oed os ti'n gwneud camgymeriad, mater bach aiwn yw newid popeth yn ôl i sut oedd o, gyda opsiwn 'dadwnued'.

Croeso i ti adael unrhyw gwestiynnau eraill yma new mewn NP.