Hogynorachub a Gwenu dan Fysiau wedi'u hychwanegu - er gwaethaf cais anrhydeddus gan blog-city i gadw cyfeiriad y ffrwd yn gyfrinachol...
'Cofn i ti angen o rywben!:
http://hogynorachub.blog-city.com/rss/default.rss
Sylwadau diddorol iawn gan bawb, diolch yn fawr iawn. Ie, ella yn dechnolegol bod blogiadur.com yn fabi i mi, ond prif pwrpas y peth ydy i weithio fel canolbwynt ar gyfer hynny sy'n cael ei gyhoeddi yn Gymraeg arlein, ac felly i ddenu mwy o ddarllenwyr i stwff annibynnol fel y blogiau - felly os bydd lot o flogwyr yn teimlo bod isio rhywbeth rhyw ffordd penodol a dwi'n anghytuno (ond dim yn meddwl y byddai fo'n lladd y lle) wna i newid o beth bynnag.
Syniad egwyddorol iawn geith ei brofi'n syth gyda'r busnes BBC 'ma...
Ymatebion difyr iawn iawn - doedd o ddim wedi croesi fy meddwl i y byddai hynny'n torri ar draws.
Ond cyn i mi dynnu fo, 'swn i'n licio gofyn ambell cwestiwn. Ydy'r rhai ohonoch chi sydd yn ei drwglicio yn defnyddwyr cyson o Cymru'r Byd?
A oes posiblrwydd y byddai fo'n tynnu sylw pobl sydd
ddim yn tueddu i'w darllen, a'u cael i wneud hynny'n fwy aml?
Gen i duedd yn hyn o beth - warth arna i i'w gyfaddef, ond dw i ddim yn darllen Cymru'r Byd yn aml - yn rhannol oherwydd bod gen i'm llawer o amser beth bynnag, ac yn rhannol jesd oherwydd diogrwydd - bydda i'n tueddu i ddisgwyl y bydd rhywbeth yn dod i fyny ar y Maes os ydi o'n werth sylw! Agwedd sydd wedi gwanhau pellach byth wrth i'r seiadau gwleidyddol fynd...
Ond dw i wedi cael fy hun yn darllen stwff o Cymru'r Byd yn eithaf aml ers dydd Gwener, oherwydd i mi weld y penawdau'n gyson.
All hyn fod yn rhywbeth sydd yn denu'r colledig rhai fel myfi (a phobl newydd) yn ol at ddarllen y newyddion yn y Gymraeg?
***
Dw i'n meddwl bod angen cyfuno profiad a dealltwriaeth y blogwyr gyda diffyg profiad ac anghenion y rhai sydd ddim mor gyfarwydd a'r We Gymraeg. Mae nifer o Sgwarnogod sydd ddim yn aelodau'r Maes wedi cael modd i fyw wrth weld y Blogiadur - doedd gennyn nhw ddim syniad bod 'na gymaint o stwff difyr ar gael.
Eto, mae pwyntiau Rhys uchod am gynyddu rheolaeth dros y ffrydiau yn y Blogiadur yn ddilys iawn (ac mi wna i 'ngorau i gael hyd o'r amser i gael rhywbeth felly yn weithredol!).
Felly gobeithio mai rhyw ymdrech cydweithredol gall hyn fod, lle mae pawb yn ennill trwy gael mwy o ddarllenwyr - a bod ni rhywsut yn ateb anghenion ac awydd y blogwyr tra'n llwyddo i dynnu i mewn pobl sydd ddim fel arfer yn darllen llawer ar y We yn y Gymraeg.
Wrth gwrs, pe bai modd diffodd ffrwd y BBC fesul unigolyn, byddem yn ateb y ddau bwynt... wna i chwysu dros hynny (ac ella bydd gen Barbarella neu eraill syniadau am sut i'w wneud...).
Diolch i chi gyd am eich atebion diddorol...