blogiadur.com
Postiwyd: Sad 24 Medi 2005 8:37 pm
Wedi bod yn rhy ddiog i ddarllen mwy na ryw pedwar neu bump o'r holl flogiau sydd wedi cychwyn, ac yn ymwybodol bod fy niogrwydd yn golygu i mi golli pethe bychain difyr ym mhobman...
Felly dw i wedi rhoi http://www.blogiadur.com at ei gilydd, yn y gobaith y bydd cael nifer fawr iawn o flogiau i gyd yn yr un lle yn hyrwyddo proffeil y RhithFro a golygu mwy o ddarllenwyr i bawb.
Ond dw i am ofyn cyn ddefnyddio frydiau RSS pobl - sydd yn cymryd amser! Felly os oes gen ti flog a dw i heb ofyn eto, croeso mawr i ti anfon e-bost neu neges breifat ataf fi i ddweud beth ydy cyfeiriad dy flog (a chyfeiriad dy ffrwd, os ti'n gwybod beth ydy o) ac mi wna i ei ychwanegu.
Gweld (wedi i mi orffen y Blogiadur!) bod Babs wedi bod yn chwarae o gwmpas efo'r un syniad, felly ella bydd ganddoch chi fyw nag un le i anfon eich blogiau... gweler http://www.slebog.net/blog...
Unrhyw awgrymiadau am ffrydiau eraill byddech chi'n licio gweld yn rhan ohono fo (chydig o stwff Flickr i mewn yn barod), rhowch wybod...