Diolch am yr awgrymiadau hyd yn hyn. Fel 'na o'n i'n teimlo am Chris Cope, Mr Gasyth, ond mae sylweddoli bod mwy o ddysgwyr yn dechrau blogio, a hynny ar adeg lle mae'n bosib y bydd rhaid dewis a dethol chydig yn fwy ar gyfer y Blogiadur (mwyaf yn y byd o flogiau sydd yn rhan ohoni, mwyaf yn y byd o ddefnydd o'r CPU, ac mae pob dim yn iawn gyda'r gweinydd newydd rwan, ond mae wedi gwneud i mi feddwl)...
Wel, mae wedi gwneud i mi deimlo'n llai sicr am y peth.
Oes, mae gofyn iddyn nhw yn un opsiwn - ond byddai well gen i fod efo rhyw fath o bolisi cyffredinol...
Mae'r rhai dwyieithog yn hawdd - dw i ddim o blaid dwyieithrwydd lle nad oes ei angen! BlogCymru iddyn nhw - ac mae'n ymddangos bod 'na dipyn o siaradwyr Cymraeg sy'n darllen hynny.
Felly ia, safon ydi hi - fel efo Scymraeg ar arwyddion, dw i ddim yn gyfforddus efo normaleiddio Cymraeg gwallus (eithaf drwglicio sgwennu pethe yn y Gymraeg fy hun, fod yn onest, heblaw bod nhw'n cael eu golygu yn iawn, sydd ddim bob tro yn bosibl).
Dw i'n meddwl mai penderfyniad Don ydy pa rai sy'n cyrraedd TirnamBlog, a'i fod yn gwneud hynny ar hap braidd.
Na, croeso mawr i ti am daflu fi i'r llewod Gaidhlig! Roedd fy llys tad o'r Alban, ac efo rhyw ychydig bach o'r iaith ar