Tudalen 1 o 16

blogiadur.com

PostioPostiwyd: Sad 24 Medi 2005 8:37 pm
gan Aran
Wedi bod yn rhy ddiog i ddarllen mwy na ryw pedwar neu bump o'r holl flogiau sydd wedi cychwyn, ac yn ymwybodol bod fy niogrwydd yn golygu i mi golli pethe bychain difyr ym mhobman...

Felly dw i wedi rhoi http://www.blogiadur.com at ei gilydd, yn y gobaith y bydd cael nifer fawr iawn o flogiau i gyd yn yr un lle yn hyrwyddo proffeil y RhithFro a golygu mwy o ddarllenwyr i bawb.

Ond dw i am ofyn cyn ddefnyddio frydiau RSS pobl - sydd yn cymryd amser! Felly os oes gen ti flog a dw i heb ofyn eto, croeso mawr i ti anfon e-bost neu neges breifat ataf fi i ddweud beth ydy cyfeiriad dy flog (a chyfeiriad dy ffrwd, os ti'n gwybod beth ydy o) ac mi wna i ei ychwanegu.

Gweld (wedi i mi orffen y Blogiadur!) bod Babs wedi bod yn chwarae o gwmpas efo'r un syniad, felly ella bydd ganddoch chi fyw nag un le i anfon eich blogiau... gweler http://www.slebog.net/blog...

Unrhyw awgrymiadau am ffrydiau eraill byddech chi'n licio gweld yn rhan ohono fo (chydig o stwff Flickr i mewn yn barod), rhowch wybod... :D

PostioPostiwyd: Sul 25 Medi 2005 12:09 pm
gan Mr Gasyth
Dwi'm cweit yn dallt sut mae hwn yn gweithio, ond croseo i ti ychwnegu Golygon Gasyth. Linc yn y llofnod.

PostioPostiwyd: Sul 25 Medi 2005 12:22 pm
gan Aran
Mae o i fewn - os ti'n sbio ar y blogiadur mi weli di bod dy gofnod cyntaf yn dod i fyny tua pedwar/pump tudalen i'r gorffennol (dolen yn ol ac ymlaen ar waelod pob tudalen) - yn rhannol diolch i set dwbl o luniau'r Cynulliad gan yr anfarwol Hiriell (gweithio ar sut i reoli hynna!).

Y rhai diweddaraf sydd ar y tudalen blaen - ac mae'n diweddaru bob rhyw chwarter awr... a dw i byth yn mynd i gael yr amser i wneud unrhyw beth ond darllen blogiau o hyn allan... :ofn:

:winc:

PostioPostiwyd: Llun 26 Medi 2005 3:08 pm
gan Rhys
Oni bai am y cwestiwn amlwg sef ble mae blog Gwenu dan Fysiau [Ffrwdd] :winc: , mae yna un neu ddau gwestiwn gyda fi am Blogiadur (ac am Y Rhithfro hefyd ond dylwn fynd i'r edefyn arall i drafod hynny).

Cyn cael rhyw mini-trafodaeth gyda Aran, doeddwn ddim yn siwr beth oedd pwynt Y Blogiadur, pan all unrhyun agor cyfrif Bloglines. Mae Bloglines yn gadael i chi greu eich rhestr blogiau (neu blogroll) eich hunan, ac sy'n gadael i chi ddarllen pob post newydd gan pob blog mewn un lle.

Efallai nad yw'r Blogiadur am fod yn ddefnyddiol i rhywun sy'n blogio'n barod, ond yn ffordd da o gyflwyno pobl i flogiau Cymraeg yn y lle cyntaf ac i weld beth sydd wedi ei bostio'n ddiweddar. O hynny o beth mae'n well ma bloglines gan eich bod yn gorfod cofrestru a chael cyfrif gyda Bloglines a darganfod y blogiau yn gyntaf.

Pwyntiau byddwn yn godi am Y Blogiadur ar hyn o bryd yw:

-Os nad ydych eisiau darllen pyst o flog/gwefan arbennig am ba bynnag reswm, byddai'n dda cael opsiwn fel bod pyst rhai blogiau ddim yn ymddangos.

-Wedi i chi ddarllen pyst, yr un pyst/storiau sy'n dal i ymddangos nes bod blog arall wedi ei ddiweddaru.

-Mae'r BBC yn tuedu postio llawer o storiau ar un tro (neu maen't yn ymddangos ar Bloglines mewn grwiau o 12+ weithio, ond gal fod yn fai Bloglines). Rydych wedyn yn debyg o golli rhai pyst.

PostioPostiwyd: Llun 26 Medi 2005 3:12 pm
gan Mr Gasyth
dwi'n gwybod mai dy wefan di ydi o aran, ac mae o yn un da hefyd, ond buaswn i o blaid cael gwared o'r eitemau BBC. os dwisho newyddion dwi'n gwbod lle i fynd.

PostioPostiwyd: Llun 26 Medi 2005 3:15 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Mr Gasyth a ddywedodd:dwi'n gwybod mai dy wefan di ydi o aran, ac mae o yn un da hefyd, ond buaswn i o blaid cael gwared o'r eitemau BBC. os dwisho newyddion dwi'n gwbod lle i fynd.


Eiliaf :wps: ...ond fel ma' Gasyth yn deud, dy fabi di ydio :winc:

PostioPostiwyd: Llun 26 Medi 2005 6:32 pm
gan Hogyn o Rachub
Trydyddiaf! Fydda fo'n edrych yn daclusach hefyd, efallai :)

PostioPostiwyd: Llun 26 Medi 2005 7:06 pm
gan Tegwared ap Seion
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Trydyddiaf!


treiliaf! :winc:

PostioPostiwyd: Llun 26 Medi 2005 9:00 pm
gan Chwadan
Ew, syniad da iawn os gai ddeud - edrych yn dda hefyd! Mi fydd Cwacian (linc yn y llofnod) yn cael ei atgyfodi'n go fuan wedi dod nol o'i wylia haf...lly gei di ei ychwanegu o os tisho :)

PostioPostiwyd: Llun 26 Medi 2005 9:12 pm
gan Aran
Hogynorachub a Gwenu dan Fysiau wedi'u hychwanegu - er gwaethaf cais anrhydeddus gan blog-city i gadw cyfeiriad y ffrwd yn gyfrinachol... :winc:

'Cofn i ti angen o rywben!:

http://hogynorachub.blog-city.com/rss/default.rss

Sylwadau diddorol iawn gan bawb, diolch yn fawr iawn. Ie, ella yn dechnolegol bod blogiadur.com yn fabi i mi, ond prif pwrpas y peth ydy i weithio fel canolbwynt ar gyfer hynny sy'n cael ei gyhoeddi yn Gymraeg arlein, ac felly i ddenu mwy o ddarllenwyr i stwff annibynnol fel y blogiau - felly os bydd lot o flogwyr yn teimlo bod isio rhywbeth rhyw ffordd penodol a dwi'n anghytuno (ond dim yn meddwl y byddai fo'n lladd y lle) wna i newid o beth bynnag.

Syniad egwyddorol iawn geith ei brofi'n syth gyda'r busnes BBC 'ma... :winc: Ymatebion difyr iawn iawn - doedd o ddim wedi croesi fy meddwl i y byddai hynny'n torri ar draws.

Ond cyn i mi dynnu fo, 'swn i'n licio gofyn ambell cwestiwn. Ydy'r rhai ohonoch chi sydd yn ei drwglicio yn defnyddwyr cyson o Cymru'r Byd?

A oes posiblrwydd y byddai fo'n tynnu sylw pobl sydd ddim yn tueddu i'w darllen, a'u cael i wneud hynny'n fwy aml?

Gen i duedd yn hyn o beth - warth arna i i'w gyfaddef, ond dw i ddim yn darllen Cymru'r Byd yn aml - yn rhannol oherwydd bod gen i'm llawer o amser beth bynnag, ac yn rhannol jesd oherwydd diogrwydd - bydda i'n tueddu i ddisgwyl y bydd rhywbeth yn dod i fyny ar y Maes os ydi o'n werth sylw! Agwedd sydd wedi gwanhau pellach byth wrth i'r seiadau gwleidyddol fynd...

Ond dw i wedi cael fy hun yn darllen stwff o Cymru'r Byd yn eithaf aml ers dydd Gwener, oherwydd i mi weld y penawdau'n gyson.

All hyn fod yn rhywbeth sydd yn denu'r colledig rhai fel myfi (a phobl newydd) yn ol at ddarllen y newyddion yn y Gymraeg?

***

Dw i'n meddwl bod angen cyfuno profiad a dealltwriaeth y blogwyr gyda diffyg profiad ac anghenion y rhai sydd ddim mor gyfarwydd a'r We Gymraeg. Mae nifer o Sgwarnogod sydd ddim yn aelodau'r Maes wedi cael modd i fyw wrth weld y Blogiadur - doedd gennyn nhw ddim syniad bod 'na gymaint o stwff difyr ar gael.

Eto, mae pwyntiau Rhys uchod am gynyddu rheolaeth dros y ffrydiau yn y Blogiadur yn ddilys iawn (ac mi wna i 'ngorau i gael hyd o'r amser i gael rhywbeth felly yn weithredol!).

Felly gobeithio mai rhyw ymdrech cydweithredol gall hyn fod, lle mae pawb yn ennill trwy gael mwy o ddarllenwyr - a bod ni rhywsut yn ateb anghenion ac awydd y blogwyr tra'n llwyddo i dynnu i mewn pobl sydd ddim fel arfer yn darllen llawer ar y We yn y Gymraeg.

Wrth gwrs, pe bai modd diffodd ffrwd y BBC fesul unigolyn, byddem yn ateb y ddau bwynt... wna i chwysu dros hynny (ac ella bydd gen Barbarella neu eraill syniadau am sut i'w wneud...).

Diolch i chi gyd am eich atebion diddorol... :D