Tudalen 11 o 16

PostioPostiwyd: Llun 08 Mai 2006 4:31 pm
gan Aran
Sori, newydd weld hyn...

Wel, o'n i'n tacluso, cael gwared o'r tudalennau doedd neb yn eu darllen, a roedd yn dewis rhwng ollwng rhai y BBC yn gyfan gwbl, neu wthio nhw i fewn...

Ac yn hunanol, dw i'n cael o'n ddefnyddiol... :winc:

Sut mae eraill yn teimlo? Os ydy lot o bobl isio cael gwared ohonyn nhw, mi wna i hynny heb bwdu'n ormodol...!

PostioPostiwyd: Llun 08 Mai 2006 10:27 pm
gan Tegwared ap Seion
Ar un llaw dwi yn defnyddio lincs y BBC weithiau, ond dim yn amal. Fwy na dim mae'n strach nofio trwyddynt i ffeindio beth sydd yn y blogiau. Yn waeth na'r BBC am hyn mae Dysg, dwi'n credu. Cofiwch, dim ond i fi mae hyn: dwi ddim isio darllen beth sydd gan dysg i'w ddweud o gwbwl; efo rhai y BBC mi fyddai'n eu darllen o leiaf.

PostioPostiwyd: Llun 08 Mai 2006 11:54 pm
gan Huw Psych
Cytuno, fydda i jysd yn anwybyddu Dysg (pwy bynnag di hwnnw!) ond weithiau yn defnyddio lincia ar gyfer y BBC er ei bod hi'n anodd porri drwy'r holl newyddion i gael at y blogiau!! Yn ddiweddar dwi di bod yn defnyddio llai ar lincia'r BBC gan ei fod yn fy ffefryna i, felly yndyn ma nhw'n niwsans!! :lol:

PostioPostiwyd: Maw 09 Mai 2006 11:09 am
gan Hogyn o Rachub
Aran a ddywedodd:Sori, newydd weld hyn...

Wel, o'n i'n tacluso, cael gwared o'r tudalennau doedd neb yn eu darllen, a roedd yn dewis rhwng ollwng rhai y BBC yn gyfan gwbl, neu wthio nhw i fewn...

Ac yn hunanol, dw i'n cael o'n ddefnyddiol... :winc:

Sut mae eraill yn teimlo? Os ydy lot o bobl isio cael gwared ohonyn nhw, mi wna i hynny heb bwdu'n ormodol...!


Dw i'n siwr eu bod nhw o ddefnydd i nifer o bobl (dydyn nhw ddim i fi'n bersonol, bbc.co.uk/cymru ydi'n nhudalen gartref i!) a 'sgen i'n bersonol dim byd yn erbyn eu cynnwys, jyst ddim yn licio'r ffaith bod 'na cyn gymaint ohonyn nhw yno dwi, tua pum chwech ar ol ei gilydd o hyd.

Wn i ddim os oes modd unai cyfyngu'r nifer ohonynt y diwrnod neu/a dim ond arddanos newyddion pwysicach?

PostioPostiwyd: Maw 09 Mai 2006 11:21 am
gan krustysnaks
blogiadur ydy'r peth wedi'r cyfan, a nid blog mo wefan y BBC.

PostioPostiwyd: Maw 09 Mai 2006 11:59 am
gan Rhodri Nwdls
Cytuno, ei fod o'n amharu braidd (a ma'r sdwff DYSG na'n od iawn). Dio ddim fath bod y BBC angen y sylw nacdi, a fel dudodd Crystyn, blogia di pwynt y blogiadur ia ddim?

Ydi hi ddim yn bosib cael y ffrwd BBC fel ffrwd fach ar yr ochr os oes rhaid eu cael nhw yno?

PostioPostiwyd: Maw 09 Mai 2006 7:02 pm
gan Aran
Wel, neb yn siarad o blaid y B

PostioPostiwyd: Maw 09 Mai 2006 7:14 pm
gan Tegwared ap Seion
Fydda hi'n bosibl cael rhestr o benawdau 'te? Fel sydd gan eu ticker... :wps:

PostioPostiwyd: Maw 09 Mai 2006 7:18 pm
gan Aran
Tegwared ap Seion a ddywedodd:Fydda hi'n bosibl cael rhestr o benawdau 'te? Fel sydd gan eu ticker... :wps:


Mmmm... be', ar wahan, rhywle arall ar y tudalen? Ia, tebyg - meddwl o'n i bod ni ddim eu hangen fel y cyfryw - ond tro nesaf bydda i'n eistedd o gwmpas heb ddim byd i'w wneud, mi af i ar ol hynny... :winc:

PostioPostiwyd: Mer 17 Mai 2006 3:44 pm
gan Al
Oes modd ychwanegu y ffrwd yma i mewn?

http://delweddau.com/blog/feed/