Tudalen 12 o 16

PostioPostiwyd: Gwe 15 Medi 2006 7:08 pm
gan 7ennyn
Mae'n rhaid i mi gyfaddef, dwi wedi bod yn reit ragfarnllyd yn erbyn blogs ers erioed (sori bawb!). Mae'n well gennai bigo fflwff o fy motwm bol fy hun na darllen am brofiadau pobl eraill wrth bigo fflwff o'u ceudyllau corfforol eu hunain.

Ond wnes i 'ddarganfod' y Blogiadur y noson o'r blaen ac, er mawr syndod, mi oedd o'n reit ddifyr. Mae fy rhestr ffefrynau wedi cynyddu yn sylweddol dros y ddeuddydd dwytha!

PostioPostiwyd: Gwe 19 Ion 2007 7:07 pm
gan 7ennyn
Mae yna lot o flogiau yn ymddangos hefo'r teitl yn unig yn ddiweddar - sbwylio fy mwynhad o'r wefan braidd! Ella bod yna rhyw isiw (yep! dwi newydd sillafu 'issue' yn Gymraeg!) hefo gwahanol fathau o borthiant RSS?

PostioPostiwyd: Sul 21 Ion 2007 12:16 pm
gan Aran
7ennyn a ddywedodd:Mae yna lot o flogiau yn ymddangos hefo'r teitl yn unig yn ddiweddar - sbwylio fy mwynhad o'r wefan braidd! Ella bod yna rhyw isiw (yep! dwi newydd sillafu 'issue' yn Gymraeg!) hefo gwahanol fathau o borthiant RSS?


Oes - mae'n dipyn o boen, tydy? Mae i'w weld yn rhywbeth i'w wneud efo gosodiadau'r blogiau unigol - os ydyn nhw'n cynhyrchu 'excerpt' neu bennawd yn unig - beth sydd isio, mae'n siwr, ydy rhywun sy'n defnyddio blogger i weithio allan sut mae newid y gosodiadau a rhoi esboniad bach sydyn yn fan hyn - wedyn byddai modd i mi adael i'r rhai sydd wrthi gwybod sut i'w newid, os ydyn nhw isio...

Un posiblrwydd arall byddai tynnu'r rhai sydd yn dangos pennawd yn unig...?

PostioPostiwyd: Sul 21 Ion 2007 2:05 pm
gan Wierdo
Ma fy mlog i wedi newid o ddangos pwt bach i ddangos dim ond y teitl. Dwi ddim yn siwr iawn pryd felly sgin im syniad beth sydd wedi newid.

Ond o be allai gofio, dwi heb newid dim blaw bar teitl fy mlog a'r sidebar...

PostioPostiwyd: Sul 21 Ion 2007 3:16 pm
gan Aran
Oce, dw i newydd greu blog ar blogger.com er mwyn cael gweld beth sydd y tu ol i'r llenni - Wierdo, wnei di roi help llaw? Os ei di at Settings -> Site Feed ac wedyn gosod 'Allow Blog Feed' i 'Full', ac wedyn postio rhywbeth ar dy flog, cawn weld os wneith wahaniaeth...

A byddai'n ddiddorol gwybod i beth oedd 'Allow Blog Feed' wedi'i osod - efalla bod Blogger wedi newid y gosodiadau awtomatig...

Diolch!...:D

PostioPostiwyd: Sul 21 Ion 2007 3:19 pm
gan Wierdo
Ma 'fun i ar full bethbynnag!

Sa huna di bod rhu hawdd mashwr!

PostioPostiwyd: Sul 21 Ion 2007 3:40 pm
gan Aran
Argh. Mae rhai blogiau ar blogger yn dangos yn iawn, rhai eraill dim. Rhaid fod o'n rhywbeth i'w wneud efo'r gosodiadau...

Gen unrhyw un syniad?!

PostioPostiwyd: Sul 21 Ion 2007 7:38 pm
gan dafydd
Aran a ddywedodd:Gen unrhyw un syniad?!

Mae'n edrych fel taw y blogiau sydd wedi symud i Blogger newydd yw'r broblem - mae porthiant arferol y blogiau yma mewn Atom fersiwn 1.0 yn lle 0.3. Dwi'm yn gwybod pa ategyn Wordpress sgen ti i gasglu'r cofnodion ond falle fod angen diweddar hwnnw er mwyn deall Atom 1.0?

PostioPostiwyd: Llun 22 Ion 2007 8:33 am
gan Aran
dafydd a ddywedodd:
Aran a ddywedodd:Gen unrhyw un syniad?!

Mae'n edrych fel taw y blogiau sydd wedi symud i Blogger newydd yw'r broblem - mae porthiant arferol y blogiau yma mewn Atom fersiwn 1.0 yn lle 0.3. Dwi'm yn gwybod pa ategyn Wordpress sgen ti i gasglu'r cofnodion ond falle fod angen diweddar hwnnw er mwyn deall Atom 1.0?


Aha - diolch yn fawr iawn i ti, Dafydd, mae hynny'n swnio fel y boi! Bydd rhaid i mi drio cael chydig o amser penwythnos nesaf 'ma i weld os oes modd unai diweddaru neu symud i ategyn arall...

Diolch!...:D

PostioPostiwyd: Maw 20 Chw 2007 8:23 pm
gan garynysmon
Wedi creu un - http://crwydropeldroed.blogspot.com

Heb ymddangos ar blogiadur.com eto, ond fyswn yn licio gwybod sut i sicrhau fod pwt o'r ysgrifen yn ymddangos ar y wefan hefyd, os fydd gena'i broblem tebyg i un Weirdo.