Tudalen 5 o 16

PostioPostiwyd: Iau 06 Hyd 2005 11:11 am
gan Mr Gasyth
Hei, da di'r Blogiadur. O'm 20 referral diwethaf, mae 5 wedi dod o'r Blogiadur :D

PostioPostiwyd: Iau 06 Hyd 2005 11:45 am
gan Rhys
Ia, dwi'n meddwl ei fod yn gweithio'n dda. Ac yn bendant yn gwireddu ei bwrpas o ddod a phobl newydd at flogiu am y tro cyntaf neu at flogiau newydd iddynt.

Gai fod yn winjar? Tydi ffrwd newyddio y Mentrau ddim rili'n blogiau ac felly mae rheswm eu cadw ar wahan (er faint o fobl eith i'w darllen, dwn i'm?), ond oes rhaid i fy mlog Dysgwyr De Ddwyrain fod yn rhan ohonynt? Dwi'n blogio rhai digwyddiadau'r gwahanol Fentrau arno, ond dwi hefyd yn ceisio cynnwys pethau eraill arno hefyd. Oes modd ei gynnwys fel blog arferol?

PostioPostiwyd: Iau 06 Hyd 2005 2:53 pm
gan Aran
Mr Gasyth a ddywedodd:Hei, da di'r Blogiadur. O'm 20 referral diwethaf, mae 5 wedi dod o'r Blogiadur :D


Gwych! Newyddion da iawn ydi hynny - gobeithio wnawn ni lwyddo i'w gynyddu'n bellach, 'fyd...

Ia, sori am hynna, Rhys! Ar yr union adeg lle roedd pawb yn gofyn am gael pethe ar wah

PostioPostiwyd: Iau 06 Hyd 2005 2:56 pm
gan Mr Gasyth
Aran a ddywedodd:newydd ddweud na wrth Chris a'r Bratiaith Blog am fod o'n Saesneg yn aml - ond anodd ydy gweld lle mae'r llinell.


Dwi'n meddwl dylet ti adael Bratiaith i mewn, mae o leia ei hanner o'n Gymraeg, mae'n ddifyr ac yn dangos dysgwr yn defnyddio ei Gymraeg.

PostioPostiwyd: Iau 06 Hyd 2005 3:53 pm
gan Rhys
Aran a ddywedodd:
Wna i roi chdi n

PostioPostiwyd: Iau 06 Hyd 2005 9:59 pm
gan Aran
Rhys a ddywedodd:A'i sefydlu adran ar wahan wnes ti gan fod cymaint o negeseuon Menter Iaith wedi ymddangos ar yr un pryd, neu am nad ydynt yn flogiau go iawn (wedi'r cwbwl mae pob math o wefannau gyda ffrwdd dyddiau hyn)?


Dim yn siwr, fod yn onest - rhyw gyfuniad o'r ddau, mae'n siwr. Doedd o ddim y nifer o gofnodion cymaint a'r ffaith eu bod yn tueddu i bostio casgliad i gyd ar yr un diwrnod (hei, neb wedi rhoi hyn i gyd ar y blog, dos i'w wneud o rwan, dw i'n clywed rhywun yn dweud unwaith y pythefnos... :winc: )...

Ond dw i'n cytuno'n llwyr nad oes dim llawr o bwrpas iddyn nhw fod ar wahan os ydy neb wedyn yn eu darllen... ella dylwn i drio nhw nol i mewn yn y prif ffrwd a gweld sut eith hi? Fyddai modd i ti awgrymu efallai iddyn nhw feddwl am gadw hi at un neu ddau gofnod ar y tro fel ffordd mwy effeithiol i ennill cynulleidfa?

Ar ran Bratiaith blog - dw i'n meddwl bod rhaid i mi anghytuno, o leia i ryw raddau. O edrych arni rwan, dim ond un erthygl o sylw sydd yno yn y Gymraeg, a hynny'n erthygl roedd wedi ymddangos yn y cyfryngau traddodiadol yn barod. Mae Chris yn sgwennu lot o stwff da, a dw i bob tro'n cael ei safbwynt yn ddiddorol hyd yn oed wrth anghytuno, ond dw i'n meddwl bod rhaid am linell yn rhywle - a'r unig cysyniad dw i wedi medru cael hyd yn hyn ydy blogiau lle mae cofnodion cyfan yn y Saesneg yn flogiau sydd ddim yn rhan o'r hyn dw i isio bod yn ei hyrwyddo gyda'r Blogiadur.

Dw i wedi cynnig gosod Blogiadur Cymreig, os bydd Chris yn ei lenwi (dw i ddim yn darllen blogiau Cymreig sydd heb fod yn Gymraeg, felly fyddwn i ddim yn gwybod lle i ddechrau) - byddai'n haws o lawer gynnwys blogiau dwyieithog mewn man felly.

Pe bai modd tynnu'r cofnodion Cymraeg allan yn unig, byddai'n wych. Ond i mi, unieithrwydd bywiog, ymarferol y We Gymraeg ydy'r peth pwysicaf amdani, felly dyna ydy pam dw i'n bod bach yn llym ar Chris.

PostioPostiwyd: Iau 06 Hyd 2005 10:19 pm
gan kamikaze_cymru
croeso i fy mlog gael ei gynnwys, os oes gen unrhywun ddiddordeb darllen y fath rwtsh

PostioPostiwyd: Gwe 07 Hyd 2005 9:10 am
gan Rhys
Aran a ddywedodd: Doedd o ddim y nifer o gofnodion cymaint a'r ffaith eu bod yn tueddu i bostio casgliad i gyd ar yr un diwrnod (hei, neb wedi rhoi hyn i gyd ar y blog, dos i'w wneud o rwan, dw i'n clywed rhywun yn dweud unwaith y pythefnos... :winc: )...


Dychrynllyd o agos i'r gwir :ofn:

Aran a ddywedodd:Ond dw i'n cytuno'n llwyr nad oes dim llawr o bwrpas iddyn nhw fod ar wahan os ydy neb wedyn yn eu darllen... ella dylwn i drio nhw nol i mewn yn y prif ffrwd a gweld sut eith hi? Fyddai modd i ti awgrymu efallai iddyn nhw feddwl am gadw hi at un neu ddau gofnod ar y tro fel ffordd mwy effeithiol i ennill cynulleidfa?


Y problem yw, o'r holl Fentrau sydd gyda Ffrwd o'u tudalennau newyddion, fi yw'r unig berson sy'n gwbod beth yw blog a Ffrwd. Efallai nai siarad

PostioPostiwyd: Gwe 07 Hyd 2005 1:07 pm
gan Aran
kamikaze_cymru a ddywedodd:croeso i fy mlog gael ei gynnwys, os oes gen unrhywun ddiddordeb darllen y fath rwtsh


Wedi'i ychwanegu!

Ond mae'n rhaid dweud bod blogiau blog-city yn llawer iawn llai hawddgar ar ran defynddio'r ffrydiau na rhai blog-spot - felly unrhyw un sy'n meddwl am gychwyn blog, ewch am blog-spot/blogger, 'nenw'r tad...

Neu ofyn i rywun osod WordPress i ti...

Ia, dw i'n dallt y problem yna yn glir, Rhys! Tybed a fyddai'n gweithio fel short-cut i ddangos y Blogiadur iddyn nhw a dweud 'pob dim yn dod i fyny yn syth ar dudalen blaen hyn (150 i 200 o ddarllenwyr y diwrnod), felly peidiwch a sbamio... :winc:

Ond fel dw i'n dweud, wna i drio rhoi un neu ddau neu fwy ohonyn nhw yn ol i mewn i'r prif ffrwd a gweld sut eith hi...

ond byddai'n creu mwy o ymwybyddiaeth Cymreig ymysg blogwyr o Gymru


Ia - anodd bob tro ydy penderfynu faint o amser i roi i hybu ymwybyddiaeth cenedlaethol ymysg y di-Gymraeg, a faint i gynyddu pethe ar gael yn y Gymraeg... tasai tri neu bedwar o bobl yn barod i gasglu blogiau da ar gyfer blogiadur dwyieithog/Saesneg, mae'n siwr 'swn i'n medru cael hyd o ddiwrnod rhyw ben i'w osod.

Unrhyw wirfoddolwyr?

PostioPostiwyd: Gwe 07 Hyd 2005 1:27 pm
gan Hedd Gwynfor
Er mwyn hyrwyddo'r blog, beth am alluogi blogwyr i gymryd c