Tudalen 10 o 16

PostioPostiwyd: Sul 18 Rhag 2005 11:08 pm
gan Aran
Diolch am yr awgrymiadau hyd yn hyn. Fel 'na o'n i'n teimlo am Chris Cope, Mr Gasyth, ond mae sylweddoli bod mwy o ddysgwyr yn dechrau blogio, a hynny ar adeg lle mae'n bosib y bydd rhaid dewis a dethol chydig yn fwy ar gyfer y Blogiadur (mwyaf yn y byd o flogiau sydd yn rhan ohoni, mwyaf yn y byd o ddefnydd o'r CPU, ac mae pob dim yn iawn gyda'r gweinydd newydd rwan, ond mae wedi gwneud i mi feddwl)...

Wel, mae wedi gwneud i mi deimlo'n llai sicr am y peth.

Oes, mae gofyn iddyn nhw yn un opsiwn - ond byddai well gen i fod efo rhyw fath o bolisi cyffredinol...

Mae'r rhai dwyieithog yn hawdd - dw i ddim o blaid dwyieithrwydd lle nad oes ei angen! BlogCymru iddyn nhw - ac mae'n ymddangos bod 'na dipyn o siaradwyr Cymraeg sy'n darllen hynny.

Felly ia, safon ydi hi - fel efo Scymraeg ar arwyddion, dw i ddim yn gyfforddus efo normaleiddio Cymraeg gwallus (eithaf drwglicio sgwennu pethe yn y Gymraeg fy hun, fod yn onest, heblaw bod nhw'n cael eu golygu yn iawn, sydd ddim bob tro yn bosibl).

Dw i'n meddwl mai penderfyniad Don ydy pa rai sy'n cyrraedd TirnamBlog, a'i fod yn gwneud hynny ar hap braidd.

Na, croeso mawr i ti am daflu fi i'r llewod Gaidhlig! Roedd fy llys tad o'r Alban, ac efo rhyw ychydig bach o'r iaith ar

PostioPostiwyd: Gwe 10 Maw 2006 10:55 pm
gan SbecsPeledrX
Heia Aran> Sori - dwi'n gwbod fod o'r peth mwya diflas yn y byd gall unrhywun sgwennu ond ..... "Fedraim bod yn arsed darllen yr edefynnau yma i gyd am sgwennu blogs"! Yn fras iawn dwi di dechrau un ..... http://sycharth.blogspot.com/ plis plis plis lledaena'r gair!

PostioPostiwyd: Maw 14 Maw 2006 1:28 pm
gan sanddef
Beth am greu blogrol ar gyfer blogiau sy'n sgwennu erthyglau yn lle y rhai dyddiadurol arferol?

PostioPostiwyd: Iau 30 Maw 2006 12:57 pm
gan Mici
Dwi di meddwl decharu blog, ydi o yn ffordd dda o ddysgu ysgrifenu gwefan syml?, dwi yn meddwl o hyd am gael syniad gwych fatha'r boi yna wnaeth ddyfeisio gwefan efo'r pixels i gyd neu gwefan sydd yn cynnig gwasanaeth?.

Ond be i rhoi yn y blog, dwi di bod yn ymchwilio a mae o fel bod pawb di meddwl am bob dim yn barod :rolio:

PostioPostiwyd: Iau 30 Maw 2006 1:57 pm
gan Rhys
Mici a ddywedodd:Dwi di meddwl decharu blog, ydi o yn ffordd dda o ddysgu ysgrifenu gwefan syml?

Ond be i rhoi yn y blog, dwi di bod yn ymchwilio a mae o fel bod pawb di meddwl am bob dim yn barod :rolio:


Mae'n gyfle i ddeall ychydig am ysgriffennu c

PostioPostiwyd: Gwe 31 Maw 2006 12:32 pm
gan Mici
O rhan diddordebau swn i ddeud chwaraeon, gwleidyddiaeth, hanesion lleol, meddwi, newyddion y byd. Bach o bob dim, swn i feddwl :)

PostioPostiwyd: Gwe 31 Maw 2006 3:57 pm
gan Rhys
Tydi fy mlog i ddim yn canolbwyntio ar ddim byd penodol, mond cymysgedd tebyg i be ti di grybwyll. Dwi'n ceisio osgoi "es allan am beint neithiwr blah blah", ond mae eraill yn sgwennu am bethau felly ac mae'n galu bod yn ddoniol (99.9% o'r rhai Cymraeg ddim gyda llaw :rolio: )

O ran un teithio, Blog Cynyr yn dilyn hanes maeswr oedd un o'm hoff flogiau

PostioPostiwyd: Gwe 31 Maw 2006 6:07 pm
gan Wierdo
dwi'n un o'r rhai hynny sy'n blogio am bob dim a dim byd, ond dydwi ddim yn disgwyl i llawer o neb ei ddarllen. Dwi'n reio';n ddiweddar i beidio deud gormod amdan fy niwrnod ac yn hytrach am bethau syn fy niddori, ond ddim yn llwyddo

A dyna pam dwi ddim ar blogiadur, chos yn y pendraw dosa neb isho gwybod!

PostioPostiwyd: Llun 03 Ebr 2006 9:18 am
gan Aran
Wierdo a ddywedodd:A dyna pam dwi ddim ar blogiadur, chos yn y pendraw dosa neb isho gwybod!


Ping! Anghywir, ond diolch am chwarae... :D

Doeddet ti erioed wedi gofyn, nag oeddet?

Ti i fewn rwan... :winc:

Ond dw i'n cytuno'n llwyr efo'r rhai sy'n dweud bod blog am rywbeth yn fwy ddiddorol o lawer na blog 'beth wnes i heddiw'.

Dim ond hyn a hyn o flogiau mae'r Blogiadur yn medru eu cynnwys cyn bydd y sgript diweddaru'n pwyso'n ormod ar y CPU, felly mae'n debyg y gawn ni ryw fath o laddfa 'blogiau manylion brecwast' rhyw ben...!

PostioPostiwyd: Sad 29 Ebr 2006 10:23 am
gan Hogyn o Rachub
Ga'i ofyn pam mae'r Blogiadur rwan yn dangos newyddion oddiwrth y BBC hefyd? Ma'n tarfu ar draws y blogiau!