Wyt ti'n flogiwr? Darllena hwn.
Postiwyd: Maw 27 Medi 2005 10:15 pm
Hedd a ddywedodd:Annwyl Flogiwr,
Fel yr ydych yn ymwybodol mae'n siwr, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal Rali Dydd Sawrn ym Mharc Cathays, Caerdydd. Byddai modd i chi helpu hyrwyddo'r rali yma trwy bostio neges ar eich blog yn ystod y dyddiau nesaf yn galw ar eich darllenwyr i'w gefnogi. Manylion isod.
Diolch yn fawr am unrhyw help,
Hedd Gwynfor
ON. A wnewch chi ddanfon hwn ymlaen at flogwyr Cymraeg eraill os gwelwch yn dda.
*RALI DEDDF IAITH*
Rali Deddf Iaith - Dyma'r Cyfle!
Hydref y 1af, 2 o'r gloch, Parc Cathays.
Hywel Williams AS,
Mererid Hopwood
Hywel Teifi Edwards,
Steffan Cravos
+ Mattoidz, Brigyn a'r Derwyddon yn chware yn ystod y Rali.
http://cymdeithas.com/2005/10/01/rali_d ... rdydd.html
-----------------------------------------------------
*BWS I'R RALI DEDDF IAITH*
Bydd bws yn rhedeg rhwng Aberystwyth a Chaerdydd, a bydd modd casglu pobol ar y ffordd. Ffonia Angharad ar 07966790181 neu ebostia angharad.clwyd@cymdeithas.com i gadw lle ar y bws.
-----------------------------------------------------
*GIG Y RALI DEDDF IAITH*
Ar noson y 1af o Hydref, wedi'r Rali Deddf Iaith ym Mharc Cathays.
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Cymru X yn cyflwyno ...
Mattoidz
MC Sleifar
Tangwystl
DJ Cynan Llwyd
Clwb Ifor Bach, Rhwng 8 a 11
Postiwyd: Maw 27 Medi 2005 10:44 pm
'Does yna neb yn darllen fy mlogs ag eithrio 'Nacw, ond 'dwi'n fodlon hysbysebu'r brotest - efallai yr aiff, ti byth yn gwybod.
Postiwyd: Maw 27 Medi 2005 10:57 pm
Diolch GT. Os mae un person ychwanegol yn dod oherwydd eitem ar dy flog, bydd yn werth chweil
Postiwyd: Mer 28 Medi 2005 10:40 am
Os oes cyfrif Flickr 'da ti, byddai'n werth copio'r poster i mewn i <a href="http://flickr.com/photos/nicdafis/36784106/">dy ffrwd</a> yna hefyd.
Postiwyd: Mer 28 Medi 2005 11:21 am
GT a ddywedodd:'Does yna neb yn darllen fy mlogs ag eithrio 'Nacw, ond 'dwi'n fodlon hysbysebu'r brotest - efallai yr aiff, ti byth yn gwybod.
Ahem. Yn
Postiwyd: Mer 28 Medi 2005 12:55 pm
Hedd y prat, mae'r neges yna'n rhy llydan ac yn ffwcio fyny'r blog (gwthio'r sidebar i'r gwaelod ac ati) Os ydach chi'n hoffi cynllun eich blog fel ag y mae o, byddwch yn ofalus cyn ei roi arno, dylai cwpl o carriage returns er mwyn rhannu'r brawddegau hiraf a dileu yr url felltith yna wneud y tric (Hedd, pam fod rhaid i'r cyfeiriadau fod mor uffernol o hir bob tro?) .
Wnei di byth gynllunio gwefan yng Nghymru eto Hedd Gwynfor </ymosodiad personol digon teg>
Wnei di byth gynllunio gwefan yng Nghymru eto Hedd Gwynfor </ymosodiad personol digon teg>
Postiwyd: Mer 28 Medi 2005 1:03 pm
Postiwyd: Mer 28 Medi 2005 1:20 pm
diolch Nic, ti'n dallt dy bethau gymaint gwell na'r Hedd Gwynfor na mae'n amlwg