Tudalen 1 o 1

PostioPostiwyd: Gwe 14 Hyd 2005 10:58 am
gan Fflamingo gwyrdd
Ymddiheuriadau os ydi hwn slaitli-off-trac, ond w'chi'r busnes botymau 'ma 'nde?... Ydi o yn erbyn etic

PostioPostiwyd: Gwe 14 Hyd 2005 11:10 am
gan nicdafis
[Wedi hollti hyn o'r edefyn am y <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?t=14807">blogiadur</a>. Mae'n haeddu edefyn ar wahan, dw i'n credu.]

Am wn i, y peth pwysica yw dy fod di ddim yn dwyn "bandwidth" y wefan arall - felly yn yr achos 'ma fyddai dim problem, ti wedi wneud copi a ti'n sy'n talu am y bandwidth nid Google, Blogger neu beth bynnag.

Mae mater o hawlfraint wedyn - ond dw i ddim yn credu y byddai unrhywun sy'n rhedeg gwefan yn poeni dy fod di wedi addasu eu logo <b>er mwyn gyrru mwy o draffig i'w safle nhw</b>. Mae'n amlwg dy fod di ddim am basio'r logo off fel dy waith dy hun.

PostioPostiwyd: Gwe 14 Hyd 2005 11:12 am
gan Rhys
Fydde ni'n dweud fod e'n ok, yn enwedig os mai ar gyfer dolen yn

PostioPostiwyd: Gwe 14 Hyd 2005 11:24 am
gan Fflamingo gwyrdd
Cwl...

Felly...fysa fo'n iawn i fi roi hwn yn fama i bobol eraill ga'l ei ddefnyddio i roi botwm Maes-e ar eu blogiau?! :wps:

<a href='http://www.maes-e.com'>
<img src='http://static.flickr.com/27/52382408_356955c9f9_o.jpg'>


(Dwi'n meddwl fod o'n gweithio...mae o ar f'un i p'run bynnag...ond dwi ddim yn honni deall sut na pham! :wps: )

Dwi'n hollol fodlon derbyn cerydd/beirniadaeth - 'mond dysgu 'dwi ;)

PostioPostiwyd: Gwe 14 Hyd 2005 11:41 am
gan Fflamingo gwyrdd
Hm...nath y 'dyfyniad' uchod ddim cweit gweithio fel o'n i'di ddisgwyl iddo fo weithio. Os oes rhywun isho defnyddio logos ar gyfer ambell i wefan, ella 'sa'n syniad gwell eu cymryd oddiar "source" y Blogel :?

Os dwi'n gneud y peth rong yn fama, plis rhywun ddweud wrtha i (neu ddileu'r holl edefyn!) a 'nai anghofio am yr holl ishiw! :wps:

PostioPostiwyd: Gwe 14 Hyd 2005 12:02 pm
gan Dwlwen
Delwedd
voila... ma tagiau (img) a (url) y maes yn wahanol i rhai blogger - ond paid gofyn pam na sut :wps: :winc:
gai awgrymu fod ti'n ditcho'r 'heb y barnu na'r cystadlu? ma fe braidd yn aneglur...

PostioPostiwyd: Gwe 14 Hyd 2005 12:09 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Delwedd

http://static.flickr.com/27/52388878_7412526edc_m.jpg

Bingo :)

PostioPostiwyd: Gwe 14 Hyd 2005 12:59 pm
gan huwwaters
Ma gen ti'r hawl i wneud adolygiad o ryw fath am waith a hawlfraint arno. Hynny yw, yr wyt yn cael defnyddio logo rhywun os wyt ti am sgwennu amdano etc.. Gan dy fod ddim yn pasio'r peth i ffwrdd fel gwaith dy hun, nac yn cymyd elw oddi ar y perchennog, ac yn ei roi mewn cyd-destun dy fod yn cefnogi'r peth, yn mi rwyt yn gwenud adolygiad ohono.

PostioPostiwyd: Gwe 14 Hyd 2005 5:56 pm
gan nicdafis
Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:Felly...fysa fo'n iawn i fi roi hwn yn fama i bobol eraill ga'l ei ddefnyddio i roi botwm Maes-e ar eu blogiau?!


Dim problem o gwbl, a does dim rhaid i neb ofyn caniatad i wneud linc i fan hyn. Fel mae Huw ac eraill wedi dweud, mae defnyddio'r logo fel hyn yn "defnydd teg".

Diolch yn fawr am wneud hyn, gyda'r llaw ;-)