Tudalen 1 o 1

Uploadr Flickr

PostioPostiwyd: Mer 26 Hyd 2005 8:39 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Dwi'di "gollwng" 126 o luniau i fewn i'r Uploadr dwi newydd lawrlwytho, ond be' dwi fod i 'neud nesa??? :? Sut mae'i cal nhw i Flickr??

:wps:

PostioPostiwyd: Mer 26 Hyd 2005 8:53 pm
gan Tronaldo
pa uploader nes di llawrlwytho?

Wyt ti di neud yn siwr bod yr uploader yn gallu llwytho i dy cyfri flickr?

PostioPostiwyd: Mer 26 Hyd 2005 8:54 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Ia...ond sut?!

(2000, ME, 98 ) :wps:

PostioPostiwyd: Mer 26 Hyd 2005 9:00 pm
gan Macsen
Mae gan Flickr fynylwythwr ar ei gwefan.

Oes gen ti gyfri Pro? Annhebygol y cei di fynylwytho dros gant o luniau fel arall.

(Sori os ti'n gwybod hyn i gyd a bo fi'n swnio'n nawddoglyd.)

PostioPostiwyd: Mer 26 Hyd 2005 9:02 pm
gan Tronaldo
Ti wedyn yn gwthio'r arwydd switch gola.

    Add user

    authorize

    a wedyn arwyddo fewn i cyfri flickr ti


Dwi'n meddwl fydd o'n gweithio wedyn.

PostioPostiwyd: Mer 26 Hyd 2005 9:05 pm
gan dafydd
Pan wyt ti'n dechrau y rhaglen Uploadr, fe ddylai ofyn i ti fewngofnodi gyda Flickr. Os na ddigwyddodd hynny, clicia ar yr icon swits golau a gwneud yn siwr fod defnyddiwr wedi ei enwi (os na, clicia add user).

Ar ol ychwanegu'r lluniau, clicia ar Upload. Dyna'i gyd dwi'n credu!

PostioPostiwyd: Mer 26 Hyd 2005 9:10 pm
gan Fflamingo gwyrdd
dafydd a ddywedodd:Ar ol ychwanegu'r lluniau, clicia ar Upload. Dyna'i gyd dwi'n credu!


Dwi wedi authorisio...ond dydi'r botwm 'upload' (gwaelod ochr dde) ddim wedi ei 'alluogi' :?

Sgin i ddim cyfrif pro... Dyna pam ella?

PostioPostiwyd: Mer 26 Hyd 2005 9:13 pm
gan Tronaldo
Na does dim angen cyfrif pro. Does gennaim syniad arall o sut i dy helpu sori.

PostioPostiwyd: Mer 26 Hyd 2005 9:14 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Aaaaaa. Bingo.
Wedi llwyddo i ddanfon un llun ar ei ben ei hun...ella mod i wedi trio bod yn rhy glyfar gynna... :wps:

Diolch bawb x


[Ypd