Tudalen 1 o 1

Wikablog (Adran 'Welsh Language')

PostioPostiwyd: Gwe 11 Tach 2005 12:54 pm
gan Rhys
Mae gwefan newydd o'r enw Wikablog, fel gallwch ychwanegu eich blog chi.

Mae'n gymharol hawdd i ychwanegu eich blog. Dwi wedi dechrau adran/categori or enw Blogs in Welsh. Pan ydych yn cofrestru eich blog, defnyddiwch engrhaiff fi. Neiwdiwch popeth sydd mewn gwyrdd fel sydd angen. Teipiwch y canlynol sydd mewn bold i gael eich cynnwys yn yr un categori.

'*[[http://www.gwenudanfysiau.blogspot.com]]*'

[-Categories:-]
* [-[[!Wales]]-]
* [-[[!Welsh Language]]-]

A blog in Welsh about the Welsh language, politics, the environment and of course football.


Ar hyn o bryd mond fy mlog i a'r Blogiadur sydd yn y categori.

PostioPostiwyd: Gwe 11 Tach 2005 12:59 pm
gan Rhodri Nwdls
Oes na rywun rioed wedi meddwl gwneud Wikinews Cymraeg? Ydi o'n feasible? Fasa na ddigon o bobol fysa'n fodlon sgwennu?

PostioPostiwyd: Gwe 11 Tach 2005 1:33 pm
gan Rhys
Rhodri Nwdls a ddywedodd:Oes na rywun rioed wedi meddwl gwneud Wikinews Cymraeg? Ydi o'n feasible? Fasa na ddigon o bobol fysa'n fodlon sgwennu?


Ffordd hawdd o wneud hyn fyddai i flogwyr Cymraeg sy'n postio am rhywbeth sy'n debyg i'r newyddion roi tag (fel technorati e.e.) 'Newyddion' ar ddiwedd y post. Yna mae Ymchwiliad Technorati am 'Newyddion' yna pigo nhw i gyd fyny*. Gelli'r wedyn gosod Ffrwd ar gyfer yr ymchwiliad yma ac yna ei osod yn adran Newyddion y Blogiadur


*Dwi'n sylweddoli bod yr ymchwiliad wedi pigo fyny pob post gyda'r gair 'newyddion', ond gelli'r dod drost hyn drwy gytuno ar derm penodol.

PostioPostiwyd: Gwe 11 Tach 2005 5:17 pm
gan Rhys
Ers i mi bostio'r neges uchod, mae gweinyddwyr y blog wedi newid enw'r categori i 'Welsh Language'. Dwi ddim yn siwr pam, ond dio'm gwahaniaeth. Wedi newid fy neges gwreiddiol i adlewyrchu hynny.