Tudalen 1 o 2

Comic Rhithfro

PostioPostiwyd: Gwe 25 Tach 2005 1:40 am
gan Macsen
Oes angen casgliad o gomics wedi' rhyddhau ar y we megis ceiriosen am ben teisen danteithiol y Rhithfro? Ta pethau i blant 12 oed yw comics i'r Cymru?

PostioPostiwyd: Gwe 25 Tach 2005 7:03 pm
gan 7ennyn
Blydi hel! fysa hynna yn ffantastic! - Rhyw fath o Viz Cymraeg! Oes gen ti rhywbeth ar y gweill?

PostioPostiwyd: Gwe 25 Tach 2005 7:06 pm
gan Al
7ennyn a ddywedodd:Blydi hel! fysa hynna yn ffantastic! - Rhyw fath o Viz Cymraeg! Oes gen ti rhywbeth ar y gweill?


Cytunaf yn llwyr

Rhywfath o Penbwl ar-lein falle? da chi yn cofio hwnw?

PostioPostiwyd: Gwe 25 Tach 2005 7:21 pm
gan 7ennyn
Pwy sy'n cofio 'Sboncyn'? Neu grand daddy y comics Cymraeg - 'Hwyl!' gafodd ei gyhoeddi gyntaf yn 1947* (dwi'n meddwl) hefo rhifyn yn rheolaidd hyd nes diwedd yr 80au - mae copiau cynnar mewn cyflwr da werth lot fawr o bres!

*Gol. - 1949!

PostioPostiwyd: Sul 04 Rhag 2005 11:39 pm
gan Macsen
Dyma esiampl o'r math o beth oeddwn i'n siarad amdano, wedi' weud gan fi a Al. Ie mae o bach yn crap nawr, ond esiampl yw hwn bobl!

PostioPostiwyd: Sul 04 Rhag 2005 11:45 pm
gan Wierdo
Ma hwna'n syniad gwych! (yn fy marn bach i bethbynnag) :lol: :lol:

PostioPostiwyd: Llun 05 Rhag 2005 12:15 am
gan 7ennyn
:lol: Hehehe - Da iawn!

Un peth - mae'r lluniau braidd yn fawr i fy sgrin bach pitw fi - dwin gorfod ffidlan hefo'r sgrolbars i'w ddarllen yn iawn.

Ond dwi'n sicr isio mwy!!

PostioPostiwyd: Llun 05 Rhag 2005 12:18 am
gan Mwlsyn
Macsen a ddywedodd:Dyma esiampl o'r math o beth oeddwn i'n siarad amdano, wedi' weud gan fi a Al. Ie mae o bach yn crap nawr, ond esiampl yw hwn bobl!


Dwi ddim yn deall yr un maen hir -- gall rhywun esbonio??? :?

PostioPostiwyd: Llun 05 Rhag 2005 12:20 am
gan Al
Mae Macsen a minna yn meddwl neud rhywbeth amdano, o ddifri e.e. gwefan ei hun, ble na wnawn postio strips bob wythnos neu be bynnag.

Hefyd san syniad galluogi pobl cyfrannu strips ei hunain neu be bynnag.

Mae'r syniad yna eniwe..

Os fydd yna ddigon o alw, wnawn pwyso i neud o

Os hoffwch, gadewch sylwad ar y blog

PostioPostiwyd: Llun 05 Rhag 2005 12:27 am
gan Macsen
Al a ddywedodd:Os fydd yna ddigon o alw, wnawn pwyso i neud o


Na, pwyso ydi gofyn i rywun arall weud rywbeth, e.e. be mae CyI yn ei weud. Dwim yn meddwl byddai Alun Pugh eisia gwneud y comic 'ma i ni (yn enwedig ers i fy comic Darth Pugh ymddangos yn y Tafod)...

Mwlsyn a ddywedodd:Dwi ddim yn deall yr un maen hir -- gall rhywun esbonio??? :?


Wel, mae Meini Hir wedi' cario o un rhan o'r wlad i'r llall, fel Stone Henge, t'wel. So mae nhw, yn dechnegol, yn wladychwyr. Felly pan mae'r Maen Hir yn gweld yr arwydd 'Dim Coloneiddio' mae o'n codi' bac a mynd adre. Wn i fod safon y peth ddim yn dda iawn achos jest esiamplau 5 munud wedi' gyrru i Al gael testio'r blog oedden nhw.