Tudalen 1 o 2
A floget ti yn Saesneg? (Pleidleisiwch am enw i'r blog)
Postiwyd:
Maw 29 Tach 2005 2:19 pm
gan Rhys
Cefndir:
Un blog yn saesneg ble bydd blogwyr y Rhithfro yn postio cyfieithiad saeseng o ambell bost o'u blog. Yn ddelfrydol dim ond pyst am bethau sy'n ymwneud
Postiwyd:
Maw 29 Tach 2005 2:26 pm
gan Mr Gasyth
Wedi pleidleisio dros 'One Foot in the Grave'. Dwi'n meddwl ei fod yn adlewyrchu sefyllfa'r Gymraeg a bydd o bosib yn denu darllenwyr gan ei fod yn ymadrodd Saesneg cyffredin, ac enw rhaglen deledu boblogaidd wrth gwrs.
Postiwyd:
Maw 29 Tach 2005 2:31 pm
gan gronw
all speak english dwi di fotio ar gyfer -- swnio fel rhwbeth rhy amlwg i gael ei ddehongli'n llythrennol, felly pobl yn fwy tebygol o fod yn chwilfrydig. hefyd, os byddai esboniad o'r cyd-destun ar yn rhwle byddai'n neud i bobl sy ddim ond yn siarad saesneg ddeall chydig mwy ar y cysyniad o bobl yn dewis siarad iaith sy ddim yn saesneg er bo nhw'n gallu siarad saesneg hefyd!
[dwi'm yn flogiwr felly allwch chi anwybyddu fi os chi ishe]
Postiwyd:
Maw 29 Tach 2005 2:42 pm
gan Rhys
Mae pleidlais pawb yn cyfri Gronw, ond bydd rhaid i ti ddechrau blog Cymraeg dy hun yn gynta cyn cael cyfrannu at y blog
Dwi di deiws 'Buried Alive' (sef fy awgrym i) gan fod clywed pobl yn cyfeirio at fy iaith fel 'dead langugae' fel cael fy nghladdu'n fyw
.
Postiwyd:
Mer 30 Tach 2005 12:39 pm
gan nicdafis
*bwp bach*
Am faint fydd hyn yn rhedeg Rhys?
Postiwyd:
Mer 30 Tach 2005 9:28 pm
gan Rhys
7 diwrnod (o ddydd Llun i ddydd Sul y 4ydd).
Postiwyd:
Mer 30 Tach 2005 9:44 pm
gan nicdafis
Diolch.
Postiwyd:
Gwe 02 Rhag 2005 12:42 pm
gan sanddef
Dw'i'm yn hoffi'r dewis o gwbl a dweud y gwir.
Postiwyd:
Gwe 02 Rhag 2005 12:48 pm
gan Rhys
Gan dy fod ti'n un o'r rhai ddangosodd ddiddordeb cyfrannu, mae croeso i ti awgrymmu enw. Dwi'n deall bod 19 wedi pleidleisio'n barod, ond mae'r p
Postiwyd:
Gwe 02 Rhag 2005 12:57 pm
gan sanddef
Wel, rhywbeth sydd ddim yn swnio'n besimistaidd. Virtually (still) here? Native Tongue? Dim syniad, rili.