Dwi'di clicio'r botwm ymchwilio, ac wedi trio defnyddio'r help sy'n cael ei gynnig ar wefan bloglines...ond dwi ddim callach.
Mae gen i gyfrif Bloglines a rhestr o flogiau wedi'u ffrydio iddo. Mae hyn yn gweithio'n iawn gyda llaw.
Dwi wedi sylwi fod posib gweld pwy sydd wedi rhestru fy mlog ar eu cyfri bloglines nhw - o'r rhai sydd a proffeil cyhoeddus. Hyd yma, dwi ddim yn meddwl fod f'enw i yn ymddangos ar restrau o sybsgreibyrs blogwyr eraill.
Dwi WEDI clicio "Yes, publish my Blog and/or Blogroll", a dwi wedi clicio "Yes, display in profile" yn newisiadau "Profile"...
Be' dwi'n neud yn anghywir? Pam 'mod i'n guddiedig?