Tudalen 1 o 1

Proffil ar Bloglines

PostioPostiwyd: Sad 03 Rhag 2005 1:51 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Dwi'di clicio'r botwm ymchwilio, ac wedi trio defnyddio'r help sy'n cael ei gynnig ar wefan bloglines...ond dwi ddim callach.

Mae gen i gyfrif Bloglines a rhestr o flogiau wedi'u ffrydio iddo. Mae hyn yn gweithio'n iawn gyda llaw.

Dwi wedi sylwi fod posib gweld pwy sydd wedi rhestru fy mlog ar eu cyfri bloglines nhw - o'r rhai sydd a proffeil cyhoeddus. Hyd yma, dwi ddim yn meddwl fod f'enw i yn ymddangos ar restrau o sybsgreibyrs blogwyr eraill.

Dwi WEDI clicio "Yes, publish my Blog and/or Blogroll", a dwi wedi clicio "Yes, display in profile" yn newisiadau "Profile"...

Be' dwi'n neud yn anghywir? Pam 'mod i'n guddiedig?

PostioPostiwyd: Sad 03 Rhag 2005 3:12 pm
gan Rhodri Nwdls
Ddylia fo ddeud ar ochr y dudalen proffil unwaith ti wedi clicio ar "make Blogroll public" you can now see your blogroll at http://www.bloglines.com/public/dy_enw_defnyddiwr

Fel mae fy un i ar http://www.bloglines.com/public/RhodriapDyfrig

PostioPostiwyd: Sad 03 Rhag 2005 3:14 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Mae o YN deud hynny... :?
Fysa ti gystal a chlicio ar dy rhestr i weld pwy sy'n dy gynnwys di ar eu rhestr nhw - ydi Blogel yna? Dwi ddim yn meddwl fod o :crio: Ond mi ddylia fod...