Dwi dal heb lawnsio
.
Unwaith y byddaf wedi cwblhau'r adran creu croeseiriau, bydd y wefan yn fyw - dwi'n gaddo! Mae'r gwaith yma yn llenwi fy amser sbar ar y funud felly dwi heb greu pos newydd ers sbel.
Dwi'n trio fy ngorau i gynllunio'r adran hon i fod mor hawdd a greddfol i'w defnyddio a phosib. Mae'n bwysig hefyd bod y cod yn 'bwlet-prwff' rhag ofn i waith caled seiri croeseiriau fynd ar goll yn y rhithffurfafen. Dyma sydd yn gyfrifol am yr oedi gyfeillion. Bydd y wefan yn fyw cyn bo hir, ar fy llw!
Yn y cyfamser mae fersiwn prawf
croesair.com dal ar gael, a chwe chroesair yn yr archif - fyswn i'n ddiolchgar iawn o unrhyw sylwadau, yn enwedig os ddowch chi ar draws byg neu wallau eraill.