Tudalen 3 o 3

PostioPostiwyd: Maw 20 Rhag 2005 11:25 pm
gan Mali
Wedi ei orffen ......rhwng gwneud y siopa , cael cinio a mynd a chardiau Nadolig o gwmpas . Handi iawn felly medru ei adael ar ei hanner a dychwelyd iddo pan fo amser yn caniatau.
Fel Fflamingo , fe wn

PostioPostiwyd: Mer 21 Rhag 2005 12:46 pm
gan Tegwared ap Seion
Da, 7ennyn! Ond dim patsh ar groesair Xanthus, Papur Menai! :winc:

PostioPostiwyd: Iau 22 Rhag 2005 1:20 am
gan 7ennyn
Mali a ddywedodd:Wedi ei orffen ......rhwng gwneud y siopa , cael cinio a mynd a chardiau Nadolig o gwmpas . Handi iawn felly medru ei adael ar ei hanner a dychwelyd iddo pan fo amser yn caniatau.
Fel Fflamingo , fe wn

PostioPostiwyd: Llun 26 Rhag 2005 5:11 pm
gan Mali
7ennyn a ddywedodd:
Mali a ddywedodd:Hehe, diolch Mali. Dwi ddim yn honni bod yn groeseiriwr o fri! Mae gennai fwy o ddiddordeb yn y rhaglennu i ddweud y gwir.


Wel, dwi'n meddwl dy fod yn gwneud joban dda :D
Croesair y Daily Post oeddwn i'n arfer wneud ers talwm , a dim ond wedi mentro ar gwpwl o groeseiriau Cymraeg , a hynny mewn papurau bro.
Mae angen mwy o safleoedd Cymraeg fel hyn ar y we ....a beth am y posibilrwydd o Scrabble Cymraeg ar y we ? Yn gweld fod y fersiwn Gymraeg wedi bod yn llwyddiannus iawn . 8)

PostioPostiwyd: Iau 05 Ion 2006 11:41 pm
gan 7ennyn
Dwi dal heb lawnsio :wps: .

Unwaith y byddaf wedi cwblhau'r adran creu croeseiriau, bydd y wefan yn fyw - dwi'n gaddo! Mae'r gwaith yma yn llenwi fy amser sbar ar y funud felly dwi heb greu pos newydd ers sbel.

Dwi'n trio fy ngorau i gynllunio'r adran hon i fod mor hawdd a greddfol i'w defnyddio a phosib. Mae'n bwysig hefyd bod y cod yn 'bwlet-prwff' rhag ofn i waith caled seiri croeseiriau fynd ar goll yn y rhithffurfafen. Dyma sydd yn gyfrifol am yr oedi gyfeillion. Bydd y wefan yn fyw cyn bo hir, ar fy llw!

Yn y cyfamser mae fersiwn prawf croesair.com dal ar gael, a chwe chroesair yn yr archif - fyswn i'n ddiolchgar iawn o unrhyw sylwadau, yn enwedig os ddowch chi ar draws byg neu wallau eraill.

PostioPostiwyd: Sad 07 Ion 2006 4:12 am
gan Mali
7ennyn a ddywedodd:Bydd y wefan yn fyw cyn bo hir, ar fy llw!


Yn edrych ymlaen ... :D

PostioPostiwyd: Sul 29 Ion 2006 11:04 pm
gan 7ennyn
7ennyn a ddywedodd:Bydd y wefan yn fyw cyn bo hir, ar fy llw!
:wps:

Penwythnos heulog braf ARALL! Grrrrrrrrr :drwg: ! Bydd rhaid i mi gael cwpwl o benwythnosau glawog i orffen y gwaith. Glaw neu hindda dwi am gloi fy hun yn y ty fel meudwy y penwythnos nesa a dwi am eistedd o flaen y cyfrifiadur 'ma nes bydd fy ll'gada'n sgwar.

Fel ddeudis i o'r blaen, bydd y wefan yn fyw cyn bo hir, ar fy llw!

Yn y cyfamser mae'r fersiwn prawf yn dal yna.

PostioPostiwyd: Llun 30 Ion 2006 3:31 am
gan Mali
Gwell yn sgw