Diolch Dafydd - o'n i'n barod wedi pori drwy dudalenau Blogger am help, ac wedi'u ebostio (ond dim ateb eto).
Dwi bellach wedi cadw'r "hen" flog, ac wedi dewis template newydd. Mae'r un newydd yn dangos fy mhyst diweddaraf i (ond, yn amlwg, heb fy newidiadau e.e. cyfieithiadau Cymraeg, dolenni ayyb).
Wedyn, mi newidish i nhw'n eu holau eto, a mae'r broblem wreiddiol yn dal yno.
Sgiwsha fi am fod yn dwp, ond be' mae hyn yn ei brofi?!
A be' fysa ti'n awgrymu i fi wneud nesa?
Diolch was