Tudalen 3 o 4

PostioPostiwyd: Gwe 31 Maw 2006 2:33 pm
gan sbwriel
ie, dwi di bwriadu diweddaru'r scriptlet bach na ers amser, ma na lot o chwilod (bugs) ynddo fe.

bear with me...

PostioPostiwyd: Llun 24 Ebr 2006 3:53 pm
gan Tegwared ap Seion
Dio'm yn gadael i mi "gyhoeddi" 'r blog wan...wel dim un o'r ddau. Mae o ar 0% am hydoedd. Eni aidais?

PostioPostiwyd: Llun 24 Ebr 2006 3:54 pm
gan Huw Psych
Mi oedd o fel na gen i ddoe...os o'n i'n ei adal o mi oedd o'n gneud yn y diwedd! Dim syniad be i neud!!

PostioPostiwyd: Llun 24 Ebr 2006 4:30 pm
gan Tegwared ap Seion
Dal ar 0% ers 40 munud! :?

PostioPostiwyd: Llun 24 Ebr 2006 4:32 pm
gan Rhys
Roedd fel na neithiw, ond bostiodd yn y diwedd. Triais bostio pnawn ma ehb unrhyw lwyddiant a rwan dwi'n methu mynd ar y wefan o gwbwl.

Mae hyn yn digwydd gyda blogger bob hyn a hyn yn anffodus, ond does ryfedd gyda'r peth am ddim. Dwi'n ystyried newid i rhywbeth arall, unai Wordpress sydd hefyd am ddim neu un ble mae rhaid talu.

PostioPostiwyd: Llun 24 Ebr 2006 4:34 pm
gan Tegwared ap Seion
Diolch yn fawr! Mi driai eto rhywbryd.

Rhyfedd hefyd, mi o'n i'n cael error timeout ddoe, mae o jysd dal i fynd heddiw!

PostioPostiwyd: Sul 28 Mai 2006 11:16 am
gan Wierdo
Dwi newydd sylwi hyn yn ddiweddar, ond pan dwi'n mynd ar Internet explorer mae'r bar dde ar fy mlog (proffeil, linciau a.y.y.b.) yn diflannu i waelod y dudalen. Ma'n iawn efo Firefox....pam? Sut allai gal o'n iawn (yn IE h.y.)

PostioPostiwyd: Sul 28 Mai 2006 2:03 pm
gan dawncyfarwydd
Pe bawn i isio rhoi linc i ddogfen Word ar fy mlog, sut fyddai mynd ati? Fyddai'n rhaid i mi hostio'r ddogfen ar wefan arall, neu ydi hi'n bosib gwneud hynny ar Blogger?

PostioPostiwyd: Mer 01 Tach 2006 9:23 pm
gan Sili
Wierdo a ddywedodd:Dwi newydd sylwi hyn yn ddiweddar, ond pan dwi'n mynd ar Internet explorer mae'r bar dde ar fy mlog (proffeil, linciau a.y.y.b.) yn diflannu i waelod y dudalen. Ma'n iawn efo Firefox....pam? Sut allai gal o'n iawn (yn IE h.y.)


*Bwp*

Mae'r un peth yn digwydd i mi. Dwi'm digon o dalent ym maes HTML i ddeall y jargon ar sut i gael fy mhroffeil a'r lincs yno n'ol fyny i'r top pan mai'n dod i newid y template chwaith, os mai dyna sydd angen ei wneud. Unrhyw help ar gael..?

PostioPostiwyd: Iau 16 Tach 2006 4:56 pm
gan Wierdo
Sili a ddywedodd:
Wierdo a ddywedodd:Dwi newydd sylwi hyn yn ddiweddar, ond pan dwi'n mynd ar Internet explorer mae'r bar dde ar fy mlog (proffeil, linciau a.y.y.b.) yn diflannu i waelod y dudalen. Ma'n iawn efo Firefox....pam? Sut allai gal o'n iawn (yn IE h.y.)


*Bwp*

Mae'r un peth yn digwydd i mi. Dwi'm digon o dalent ym maes HTML i ddeall y jargon ar sut i gael fy mhroffeil a'r lincs yno n'ol fyny i'r top pan mai'n dod i newid y template chwaith, os mai dyna sydd angen ei wneud. Unrhyw help ar gael..?


*BWP*

Mae o dal i ddigwydd gyda template newydd.....