Tudalen 1 o 2

Hysbyseb am ddim i'ch blog

PostioPostiwyd: Llun 09 Ion 2006 5:05 pm
gan nicdafis
Trial cael mwy o hysbysebion o fewn i'r sustem, gan feddwl y byddan nhw'n fwy effeithiol 'sai tipyn bach mwy o amrywiaeth. Felly...

Os oes blog Cymraeg 'da ti, ac wyt ti am ei hysbysebu am ddim ar y maes, rho wybod. Cei di ddewis fformat dy hysbyseb: baner 468x60, botwm 125x125 neu hysbys destun sy'n dilyn yr un patrwm

PostioPostiwyd: Llun 09 Ion 2006 10:18 pm
gan nicdafis
Wedi cael cwpl o ymatebion am hyn yn barod - angen mwy.

PostioPostiwyd: Maw 10 Ion 2006 10:46 am
gan nicdafis
Diolch i bawb sy wedi anfon baneri a botymau - mae'r hysbsyebion newydd yn denu crin dipyn o gleciadau, ac mae'n ymddangos bod cynllun da yn talu ei ffordd (hyd yn oed gyda hysbyseb am ddim). ;-)

Ga i bwysleisio bod rhaid i'r jpg/gif fod yn <b>union</b> y maint - 125x125 neu 468x60 - fydd graffig sy ddim yn ffito yn y blwch ddim yn cael ei ddewis gan y sustem a bydd rhaid i mi ei addasu.

PostioPostiwyd: Maw 10 Ion 2006 10:26 pm
gan Rhodri Nwdls
Faswn i'n hoffi rhoi baner i Pictiwrs.com, ond sgenna i ddim clem pan mae'n dod at ddylunio unrhyw ddelweddau. All unrhyw un helpu?

Mae ganddon ni logo (dros dro) ond ma hwnnw'n 354x129...

PostioPostiwyd: Maw 10 Ion 2006 10:34 pm
gan Macsen
Rhodri Nwdls a ddywedodd:Faswn i'n hoffi rhoi baner i Pictiwrs.com, ond sgenna i ddim clem pan mae'n dod at ddylunio unrhyw ddelweddau. All unrhyw un helpu?


Delwedd

PostioPostiwyd: Maw 10 Ion 2006 11:11 pm
gan Rhodri Nwdls
W. Diolch yn fawr i chi syr.

PostioPostiwyd: Mer 11 Ion 2006 5:05 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Macsen a ddywedodd:
Rhodri Nwdls a ddywedodd:Faswn i'n hoffi rhoi baner i Pictiwrs.com, ond sgenna i ddim clem pan mae'n dod at ddylunio unrhyw ddelweddau. All unrhyw un helpu?


Delwedd


Sut nest ti hynna Macsen?! 'Swn i'n licio ca'l tro ar 'neud un... 8)

PostioPostiwyd: Mer 11 Ion 2006 7:30 pm
gan Macsen
Dwy funud yn paint. Copio + Gludo wedyn Priodoleddau lawr i'r maint cywir.

PostioPostiwyd: Iau 12 Ion 2006 11:38 am
gan tafod_bach
Ga i bwysleisio bod rhaid i'r jpg/gif fod yn union y maint - 125x125 neu 468x60 - fydd graffig sy ddim yn ffito yn y blwch ddim yn cael ei ddewis gan y sustem a bydd rhaid i mi ei addasu.


o diar. fyddwn i'n lecio cael un, ond fydd raid i mi feddwl am sut ar y ddaear i gael y peth i'r maint cywir... diolch am y cynnig, gyda llaw nic!

PostioPostiwyd: Gwe 27 Ion 2006 12:15 pm
gan nicdafis
Mae cynnig ar gau nawr mae arna i ofn (mae un i Mr Gasyth i ddod). Diolch i bawb wnaeth hala hysbyseb i mewn - mae'n edrych fel bod yr hysbysebion graffig yn llawer mwy effeithiol na'r rhai testun. (Ai fi yw'r unig un sy'n meddwl bod testun yn well? Debyg iawn.)