sbwriel a ddywedodd:so fuckit, basicly
Wel na, os oes gen ti'r amser i gofnodi fewn bob wythnos a threfnu'r lle, cer ati. (Mae'n bosib fod rhai cannoedd o wefannau yn aros i'w ychwanegu.. mi roedd yn yr adrannau saesneg yn sicr).
Beth dwi'n meddwl sy'n wirion yw y ffordd mae nhw yn rhedeg ei system golygyddol. Mi fase'n dda cael nifer o olygyddion ar gyfer adrannau cyfan (5 neu fwy) a wedyn fase pobl yn gallu cyfrannu pan mae ganddynt yr amser yn hytrach a fyddai rhywun yn y grwp 'o gwmpas' drwy'r amser. Mi fyddai hyn yn well na un person yn gorfod cofio i gofnodi fewn yn rheolaidd i olygu rhywbeth, er falle nad os dim i'w wneud.
Ond dwi'n credu fod y dau neu dri ohonon ni oedd yn gwneud hyn yn y dechrau wedi syrffedu ar y ffordd roedd y system yn gweithio a wedi colli diddordeb. Os oedd nifer o bobl yn golygu eto yn gyson, mi fydde dal werth diweddaru'r rhestr, er mod i'n meddwl fod sefyllfa'r cyfeiriadur fel adnodd defnyddiol wedi'i lesteirio gan y y ffordd mae'r peth yn cael ei reoli.