Tudalen 2 o 4

PostioPostiwyd: Mer 08 Chw 2006 12:00 pm
gan khmer hun
Mewn 10.

Daro - swn i wedi cael e'n gynt, wir i chi, os fysen i wedi credu bod sgiliau technoleg 7ennyn gystal

PostioPostiwyd: Mer 08 Chw 2006 1:52 pm
gan Tegwared ap Seion
4 8) 8)

mewn rhyw ffordd, mae llai o lojic ynddi na sydd yna yn y gem liwiau gan bod y cyfres o sumbolau yn gwneud gair, sydd yn ei wneud yn wahanol yn bendant. Lwc i mi oedd rhois e.e. cant yn y gair cyntaf, a pant oedd o yn y diwedd. Baswn wedi medru dechrau efo e.e. ebol a mynd rownd am hydoedd (fel y gwnes i neithiwr).

PostioPostiwyd: Mer 08 Chw 2006 6:53 pm
gan Iwan Rhys
Llongyfarchiadau! Llwyddaist i ddatrys y cyfrinair mewn 5 cynnig!


Iei! G

PostioPostiwyd: Mer 08 Chw 2006 7:14 pm
gan Iwan Rhys
Llongyfarchiadau! Llwyddaist i ddatrys y cyfrinair mewn 1 cynnig!


O diar!! Daeth yr un gair lan deirgwaith ar

PostioPostiwyd: Mer 08 Chw 2006 7:19 pm
gan Tegwared ap Seion
Llongyfarchiadau! Llwyddaist i ddatrys y cyfrinair mewn 9 cynnig!
LLWYDDIANT!

Pam bod llwyddiant mewn 'sgwennu gwyn ar y gwaelod?! O'dd hwnna'n gynnig eitha da dwi'n meddwl, un lythyren ges i'n iawn yn y cychwyn...o diar dwi'n dechra mynd yn hwcd ar y thing :)

PostioPostiwyd: Mer 08 Chw 2006 8:36 pm
gan 7ennyn
A! Wnes i ddim disgwyl y bysa neb yn mynd yn adicted iddo fo. 'Prototeip' yn unig ydi o ar y funud a dim ond chwech gair gwahanol sydd ynddo fo - mae'r cyfrinair yn cael ei ddewis ar hap o'r chwech gair gan y rhaglen. Wnai sdwffio mwy o eiriau newydd i fewn i'r rhaglen cyn gynted a phosib!

T ap S a ddywedodd:Pam bod llwyddiant mewn 'sgwennu gwyn ar y gwaelod?!

Ym, mae'r 'LLWYDDIANT' i fod i gael ei animeiddio (gan newid lliw o ddu trwy llwyd i wyn) os wyt ti'n dyfalu'n gywir. Mae o'n edrych yn gret ar yr hen groc o gyfrifiadur dwi'n ddefnyddio, ond ella ei fod yn digwydd yn rhy sydyn i sylwi ar beiriant sydd yn fengach na 5 mlwydd oed!

PostioPostiwyd: Mer 08 Chw 2006 10:15 pm
gan Tegwared ap Seion
Na, newydd wneud o eto (er mwyn gweld beth oedd yun digwydd efo'r "LLWYDDIANT" :wps: :wps: hmff, dyna 'di'r esgus beth bynnag!) ac yndi mae o'n animeiddiedig. Fi oedd ddim yn cofio hynny pan ddu-ish i'r dudalen gynna, a gweldd LLWYDDIANT yn fawr ac yn gudd.

Nyts o raglen! Wel, wedi dweud hynny, rheswm arall i beidio trio deall convolution...!

PostioPostiwyd: Mer 08 Chw 2006 11:26 pm
gan gethin_aj
6 cynnig :D

PostioPostiwyd: Mer 08 Chw 2006 11:36 pm
gan 7ennyn
dafydd a ddywedodd:mae yna wall bach achos mae'n bosib gwasgu enter heb fod dim byd yn y bocs.

Sorted! Diolch Daf! :winc:

PostioPostiwyd: Iau 09 Chw 2006 12:12 pm
gan Dwi'n gaeth i gaws
15 cynnig a'r tro cynta fyd. . . on o'n i'm yn dallt fod o aciwali fod i neud gair. . . trio eto wan. wehei ma hwn yn clas! 8)