Rhiridflaidd a ddywedodd:"Mewngofnodi fi yn awtomatig bob ymweliad" er engraifft.
Ydi "mewngofnodi", "postio", "daatabas" er engraifft, yn dermau y dylem ni eu defnyddio, neu oes angen bathu geiriau newydd??
Cofnodi\dadgofnodi .?? Fi 'ma, Fi'n mynd??.
Wel does dim angen defnyddio "daatabas" (na chwaith "databas") ond "cronfa ddata".
Mae "cofnodi" yn golygu "gwneud cofnod" a nid dyna yw'r weithred mae'r defnyddiwr yn wneud wrth danfon eu manylion i wefan. (mae'r cofnodi yn cael ei wneud gan y meddalwedd ond nid o safbwynt y defnyddiwr). Mae e fel cerdded i fewn/allan o theatr neu sinema - mi rydych wedi prynu tocyn yn barod a mae'n rhaid ei ddangos wrth y fynedfa.
Nawr fe allech chi ddefnyddio termau hollol anffurfiol a dwi'n siwr fe fyddai'n arbrawf diddorol i wneud hynny. Er hyn fe fydd bob amser angen cyfieithiadau ffurfiol sydd yn cael eu defnyddio mewn modd safonol h.y. meithrin geirfa sydd yn dod yn adnabyddus ar draws pob gwefan. Dyw pobl gyffredin, sydd ddim yn ieithgwn, ddim eisiau dysgu bathiad newydd ac estron am 'log in' bob tro mae nhw'n ymweld a gwefan newydd.
Wedi dweud hyn mae "Mewngofnodi fi yn awtomatig bob ymweliad" bach yn anodd. Mae yna bosibiliadau arall fel "Cofiwch fy manylion bob ymweliad" neu "Cofio fy enw a chyfrinair".
Mae yna
edefyn arall am gamgymeriadau yn y cyfieithiad, ond falle fod angen edefyn arall am wella'r cyfieithiad.