Falle bod chi 'di sylwi bod ni wedi newid system gofrestru'r Maes i ofyn am gôd rhifau arbennig, sy'n cael ei arddangos fel geiriau'r rhifau yn unig.
(Allgofnodwch ac ewch i'r ddalen gofrestru am enghraifft).
Gobeithio bydd hyn yn atal y sbambotiaid otomatig sy di bod yn ceisio ymuno'n ddiweddar.
Mae'n syniad digon syml, felly os oes gennych chi flog WordPress Cymraeg, ac eisau rhoi'r un rhwystr ar anfon sylwadau, mae na ategyn ar gael i wneud yr un peth.
Mae yn fan hyn. Lawrlwythwch y ffeil i'ch ffolder /wp-content/plugins/ a'i alluogi yn yr adran weinyddu.
Mae na fwy o gyfarwyddiadau, a dewisiadau, yn y ffeil ei hyn, ond bydd yn gweithio'n ffain yn syth.