Ategyn WordPress i atal sbam (à la Maes-E)

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ategyn WordPress i atal sbam (à la Maes-E)

Postiogan Barbarella » Sul 21 Mai 2006 10:34 am

Falle bod chi 'di sylwi bod ni wedi newid system gofrestru'r Maes i ofyn am gôd rhifau arbennig, sy'n cael ei arddangos fel geiriau'r rhifau yn unig.

(Allgofnodwch ac ewch i'r ddalen gofrestru am enghraifft).

Gobeithio bydd hyn yn atal y sbambotiaid otomatig sy di bod yn ceisio ymuno'n ddiweddar.

Mae'n syniad digon syml, felly os oes gennych chi flog WordPress Cymraeg, ac eisau rhoi'r un rhwystr ar anfon sylwadau, mae na ategyn ar gael i wneud yr un peth.

Mae yn fan hyn. Lawrlwythwch y ffeil i'ch ffolder /wp-content/plugins/ a'i alluogi yn yr adran weinyddu.

Mae na fwy o gyfarwyddiadau, a dewisiadau, yn y ffeil ei hyn, ond bydd yn gweithio'n ffain yn syth.
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan nicdafis » Sul 21 Mai 2006 11:03 am

Bendigedig, dw i'n edrych ymlaen at brofi hyn. Ces i 250 darn o sbam ar Morfablog ddoe. :rolio: Dyw e ddim yn ymddangos ar y blog, ond mae'n boen gorfod eu dileu i gyd. Bydd hyn o help fawr.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Al » Sul 21 Mai 2006 11:11 am

Oh Gwych! Er bo ddim yn cael dim sbam o gwbl, eto :rolio: , mae hwn am fod yn help mawr i atal unrhyw un i ddechrau. Diolch yn Fawr.
Al
 

Postiogan dafydd » Llun 22 Mai 2006 10:28 am

Syniad neis, ond wneith hwn ddim atal sbam ôl-nodi. Dwi'n cael cannoedd o rhain ar y funud.

Dwi'n defnyddio Spam Karma 2 sy'n marcio sylwadau/ôl-nodiadau fel sbam yn otomatig. Mae cyfieithiad Cymraeg ar gael yma.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Barbarella » Llun 22 Mai 2006 11:40 am

dafydd a ddywedodd:Syniad neis, ond wneith hwn ddim atal sbam ôl-nodi. Dwi'n cael cannoedd o rhain ar y funud.

Dwi'n defnyddio Spam Karma 2 sy'n marcio sylwadau/ôl-nodiadau fel sbam yn otomatig. Mae cyfieithiad Cymraeg ar gael yma.


Ai, dwi jysd yn diffodd nôl-nodiadau yn syth pob tro. Wastad wedi meddwl bod nhw fwy o drafferth na'u gwerth beth bynnag.

Fel wedes i, ateb syml di-drafferth ydi o, gan mod i di paratoi'r pwt o gôd beth bynnag ar gyfer y Maes. Y broblem efo unrhyw system otomatig fel Spam Karma yw bod camgymeriadau (positif neu negyddol) bownd o ddigwydd weithiau. Dyw rhwystr ieithyddol ddim yn berffaith chwaith, ond dwi digon hapus atal pobl sydd methu cyfri i 10 rhag bostio ar fy mlog ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan nicdafis » Llun 22 Mai 2006 2:01 pm

Fel Babs, dw i wedi troi off nol-nodiadau ers meityn - dim ond dau go iawn dw i wedi cael erioed, ond miloedd o rai ffug sbamllyd.

Ces i dros 700 darn ddoe, cyn i mi gofio gosod ategyn Barbarella, a dim byd ers hynny.

Canlyniad da, dwedwn i.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Al » Llun 22 Mai 2006 2:38 pm

nicdafis a ddywedodd:Fel Babs, dw i wedi troi off nol-nodiadau ers meityn - dim ond dau go iawn dw i wedi cael erioed, ond miloedd o rai ffug sbamllyd.


Beth yw nol-nodiadau? trackbacks?

Allith rhywun esbonio fel allai rhoi nhw ffwrdd(os ma nhw mlaen o gwbl) a i osgoi'r broblem yma?
Al
 


Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron