Mae Sgript Cymru wedi creu blog ar gyfer ein cynhyrchiad diweddaraf, Orange gan Alan Harris. Rydym yn hynod o falch ein bod yn gallu rhannu peth o broses yr awdur a datblygiad y cynhyrchiad hefo'r cyhoedd. Cewch yr holl wybodaeth ddiweddaraf gan y cast, y criw, y cyfarwyddwr Tessa Walker a'r awdur Alan Harris. Gobeithiwn roi cipolwg i chi ar y broses o lwyfannu a datblygu ysgrifennu newydd o'r castio, datblygiad y sgript a'r ymarferion...hyd at y perfformiad cyntaf.
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich sylwadau a'ch cwestiynau. Dewch inni ryngweithio!
Ewch i http://www.orangetheplay.co.uk
Mae dau ddyn ifanc yn herwgipio dyn busnes Moslemaidd tu allan i fosg yng Nghaerdydd. Yn ddrama ddwys, angerddol llawn hiwmor annisgwyl mae'r ddrama'n archwilio gwir ystyr rhyddid a chaethiwed trwy lygaid cred, crefydd a rhywioldeb.