Yffarn. Diolch yn enfawr am ymateb mor sydyn.
Diolch am sylwi'r stori 'na. Rhywsut hwnna 'di cael ei gyhoeddi cyn cael ei gyfieithu. Wps.
Wordpress + plygin Polyglot sy' 'di gwneud y safle mor hawdd ei greu. Y cynllun wedi ei seilio ar gynllun 3 colofn "yr holy grail" css - neu rhywbeth eitha' agos ato fe.
Pwynt da iawn am y map. Y bwriad yw, unwaith bydd mwy o gynnwys mewn ambell adran i hwnna fod yn linc i storiau o wahanol adrannau o Gymru, felly wna i adael hwnna am y tro, fi'n credu - ond wna i gadw hynny mewn cof.
Wna i weithio ar y datganiad preifatrwydd.
RSS yn broblem oherwydd natur wordpress a polyglot - dyw'r meysydd sy' wedi'u cyfieithu yn y brif safle ddim yn cael eu creu'n gywir gyda'r script RSS (medri di drio'r cyfeiriad RSS arferol ar gyfer wordpress a gweld RSS y safle - a gweld beth ydw i'n ei olyu). Bydd angen ychydig o waith ar hwn, a dim lot o amser ar hyn o bryd. Araf fydd gwneud hyn fi'n ofni.
Diolch yn enfawr eto!