Tudalen 1 o 1

Profi safle?

PostioPostiwyd: Mer 14 Meh 2006 2:28 pm
gan Scwid
Long tyim lisnyr, fyrst tyim colyr fel ddwedodd Idris ap Cynan.

Ma' safle'n cael ei lansio gyda fi cyn hir, a o'n i'n meddwl ceisio cael mwy o lyged i edrych arno fe cyn i fi gael fy nal wedi gwneud mes llwyr o safle dwyieithog...

http://prosiectcroeso.org/ yw'r cyfeiriad, a wnai ddeall yn iawn os nad oes smicyn o ddiddordeb mewn rhoi adborth. Fi'n gwybod y bydden i ddim yn helpu gormod onibai ei bod hi'n brynhawn Gwener...

Diolch i chi ta beth :)

PostioPostiwyd: Mer 14 Meh 2006 4:32 pm
gan Llefenni
Dwi'n lecio'r cynllyn - glân iawn a'r lliwiau yn dangos yr is-adrannau'n reit glîr. Mae'r linc i'r stori honmewn saesneg yn unig yn yr adran "Newyddion" Cymraeg.

Mae'r newid o Gymraeg i Saesneg yn llyfn iawn - a ddim yn eich gyrru nôl i'r dudalen flaen bob tro - ardddrchog :D

Dwi'n ei hoffi hi! (Ond person cynnwys, mwy na chôd ydwi cofia :winc: )

[gol. Dwi wastad isie clicio ar y map amryliw o Gymru i fynd i wahannol adrannau, gan eu bod wedi'w lliwio fel y "colour code" llywio]

PostioPostiwyd: Mer 14 Meh 2006 6:58 pm
gan 7ennyn
Ardderchog!

Dwi'n gwybod bod beirniadaeth cadarnhaol yn fwy gwerthfawr na chodi bawd a deud "da iawn washi" gan wincio, ond dwi wir ddim yn gallu ffendio unrhyw feiau. Ond mi roi go arni:

Dwi wedi trio'r wefan mewn gwahanol borwyr ac mae gennai un beirniadaeth/awgrym bach pitw. Mae'r datganiad hawlfraint sydd fel arfer i fod i ymddangos ar waelod y dudalen yn gwneud ymddangosiad annisgwyl yng nghanol y dudalen mewn porwyr sydd yn anwybyddu'r CSS (fel Opera Mini ar ffonau symudol neu borwyr arbennigol i bobl a nam ar eu golwg). Dyna'r unig 'fai' fedrai ffendio.

Felly, gan godi dau fawd a wincio, da iawn washi! :winc:

PostioPostiwyd: Mer 14 Meh 2006 7:08 pm
gan dafydd
Allai'm gweld unrhyw feiau chwaith, ond am ei fod wedi'i seilio ar WordPress dyna fase'n i'n disgwyl. Ond, gan mai WP yw e, lle mae'r RSS? :winc:

PostioPostiwyd: Mer 14 Meh 2006 10:08 pm
gan Waen
Edrych yn iawn gen i gyda Safari/mac.
Does ganddoch dim lle i poeni o gwbwl, mae wordpress yn blog cadarn!

un o 'mantras' ffefrynau fi yw - ' content is king'

ymlaen a chdi :)

PostioPostiwyd: Iau 15 Meh 2006 2:27 pm
gan Scwid
Yffarn. Diolch yn enfawr am ymateb mor sydyn.

Diolch am sylwi'r stori 'na. Rhywsut hwnna 'di cael ei gyhoeddi cyn cael ei gyfieithu. Wps.

Wordpress + plygin Polyglot sy' 'di gwneud y safle mor hawdd ei greu. Y cynllun wedi ei seilio ar gynllun 3 colofn "yr holy grail" css - neu rhywbeth eitha' agos ato fe.

Pwynt da iawn am y map. Y bwriad yw, unwaith bydd mwy o gynnwys mewn ambell adran i hwnna fod yn linc i storiau o wahanol adrannau o Gymru, felly wna i adael hwnna am y tro, fi'n credu - ond wna i gadw hynny mewn cof.

Wna i weithio ar y datganiad preifatrwydd. :)

RSS yn broblem oherwydd natur wordpress a polyglot - dyw'r meysydd sy' wedi'u cyfieithu yn y brif safle ddim yn cael eu creu'n gywir gyda'r script RSS (medri di drio'r cyfeiriad RSS arferol ar gyfer wordpress a gweld RSS y safle - a gweld beth ydw i'n ei olyu). Bydd angen ychydig o waith ar hwn, a dim lot o amser ar hyn o bryd. Araf fydd gwneud hyn fi'n ofni.

Diolch yn enfawr eto!

PostioPostiwyd: Iau 15 Meh 2006 4:24 pm
gan nicdafis
Edrych yn wych. Rhaid i mi edrych ar y peth Polyglot yma.

PostioPostiwyd: Gwe 23 Meh 2006 3:25 pm
gan Scwid
http://fredfred.net/skriker/index.php/polyglot

Plug-in bach go syml yw e' - gyda chyfarwyddiadau anobethiol yn anffodus.

Rho waedd os wyt ti eisiau unrhyw help - er falle na fydda i'n medru cynnig llawer i ti fydd o unrhyw werth ;)