Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.
Nag wy fel arfer yn chwerthin yn uchel wrth ddarllen blogiau, ond ware teg... Gobeithio bod mwy i ddod - does bosib bydd pobl yn astudio'r testunau hyn fel rhan o'u lefel A yn fuan!
caws_llyffant a ddywedodd:Ardderchog !
.... rhyfadd i weld y 'K' na ym mhob man . Mae o'n edrych fatha Llydawag . Pryd ddaru'r 'K' ddiflannu o'r Gymraeg ?
Diflanodd y 'K' pan ddechreuwyd printio ar weisg gyda llythrennau symudol. Gan taw metal oedd y llythrennau, prynwyd cyn lleied o'r pethau a phosib. Wrth brintio gweithfeydd Cymraeg mewn gweisg Saesneg (hy yr unig weisg i ddechrau) roedd rhaid defnyddio'r C yn lle'r K mwy prin.