Gwylio'r Steddfod ar y We.

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gwylio'r Steddfod ar y We.

Postiogan Mali » Llun 07 Awst 2006 3:15 am

Oes 'na safle debyg i'r un oedd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd eleni ? Yr unig un fedrai gael hyd iddo efo dipyn o drafferth ydi safle'r BBC.
A tydio ddim hanner mor glir a'r un ar gyfer yr Urdd. 'Roeddwn yn meddwl fasa petha wedi gwella erbyn hyn. :?
Siom... :(
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Llefenni » Llun 07 Awst 2006 8:46 am

*Rhoi nghap swyddogol (a blîn) mlaen*

Cwmni anibynol oedd yn gneud yr urdd (a'r Sioe Fawr) a felly roedd eu hawliau hwy ar ddarlledu i'r wê yn well - gyda'r cynnwys ar gael yn aml blatfform am 35 niwrnod wedi'r darllediad teledu. Mae'th BBC ar y llaw arall, ddim ond yn neud ar eisteddfod achos bo rhaid iddyn nhw, fel rhain o'r darpariaeth statudol i Sbrec.

Thus, di'r Beeb ddim yn poeni iot am ddarllediadau'r Sdeddfod, mae'r graffeg yn gachlyd, y vision mixer yn cwmpo i gysgu bob hyn a hyn a'r llawr y stiwdio fel rw fyd breuddwydiol lle mae Huw Eic yn trio cadw rheolaeth :x

Hefyd, ar gyfer y Sioe Fawr, benderfynodd Sbrec fynd am Windows Merdia Player (emffasis ar y "merde") yn hytrach na, fel ti'n deud Mari, darpariaeth glir a hawdd ei ddefnyddio sydd ar gel trw flash video.

[/rant]
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Postiogan Llefenni » Llun 07 Awst 2006 11:26 am

[cwmpo ar fy mai... rhywfaint]

Mae o ar gael mewn fformat Realplayer yn fan hyn.

A gan ei fod yn ffrydio byw, Realplayer *ptah* di'r ffor hawsa' i'w wneud :(
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Postiogan SerenSiwenna » Llun 07 Awst 2006 11:31 am

Ooo, diddorol iawn - doedd gen i ddim syniad bo technoleg di dod mor bell! gret de 8)
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Postiogan dafydd » Llun 07 Awst 2006 2:32 pm

Wnaethon ni drafod hwn mewn edefyn arall, sai'n cofio pa un. Mae technoleg ffrydio y BBC wedi ei adeiladu ar sail 'Prydain yn unig' am y rheswm fod costau traffig rhyngwladol yn uchel iawn. Mae cytundebau rhwng y BBC a ISPs ym Mhrydain yn golygu fod hi'n costio nesa peth i ddim i drosglwyddo ffrwd fideo band-eang.

Tu allan i Brydain mae'r ffrydiau yn syrthio nôl i 56k neu byth bynnag yw e. Er hynny dwi'n gwylio'r fersiwn band-eang a mae e dal eitha gwael.. mae codecs Real yn dangos ei oed erbyn hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Barbarella » Llun 07 Awst 2006 3:45 pm

Llefenni a ddywedodd:Thus, di'r Beeb ddim yn poeni iot am ddarllediadau'r Sdeddfod


Mae dweud bach y BBC ddim yn poeni iot chydig bach yn <i>harsh</i> -- mae na dros 300 o bobl yn gweithio ar y darpariaeth Steddfod ar y maes, a mae lot fwy o ddarpariaeth o'r Steddfod nag o wyliau eraill.

O ran y we, mae na <a href="http://www.bbc.co.uk/cymru/eisteddfod2006/cefndir/gweddarlledu.shtml">ffrydiau byw</a>, ac mae na glipiau o'r enillwyr ar gael hefyd yn y <a href="http://www.bbc.co.uk/cymru/eisteddfod2006/canlyniadau/">safle canlyniadau</a>. Bydd y clipiau o safon uwch na'r ffrwd fyw, ond fel ddwedodd Dafydd, does dim modd gwylio'r fersiynau band eang tu allan i Brydain (oherwydd y drwydded teledu yn ogystal â rhesymau technegol/ariannol).
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan Blewyn » Llun 07 Awst 2006 4:05 pm

Barbarella a ddywedodd:does dim modd gwylio'r fersiynau band eang tu allan i Brydain (oherwydd y drwydded teledu yn ogystal â rhesymau technegol/ariannol).


Ym.....wel dwi'n eu gweld nhw'n OK.....dwi'n meddwl...
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Llefenni » Llun 07 Awst 2006 4:12 pm

Barbarella a ddywedodd:
Llefenni a ddywedodd:Thus, di'r Beeb ddim yn poeni iot am ddarllediadau'r Sdeddfod


Mae dweud bach y BBC ddim yn poeni iot chydig bach yn <i>harsh</i> -- mae na dros 300 o bobl yn gweithio ar y darpariaeth Steddfod ar y maes, a mae lot fwy o ddarpariaeth o'r Steddfod nag o wyliau eraill.



Oce, digon têg Barbarella... dio'm esgus, ond oni mewn hwylie drwg borema (a mi ydw i dal) am safon darpariaeth ddarlledu'r Beeb o'r sdeddfod. Popeth yn iawn cel 300 o bobl yna, ond pan mae'r graffeg yn dod o'r arch (Mam ddedodd hyna gyda llaw, dim jyst achos o fi'n pici am y pethe ma), y gwaith camera yn staid iawn (neu wedi'w saetho o dop y seddi, thus yn uffernol o shaky), vision mixer sy'n cwmpo i gysgu oth y controls, bois VT sy'n amlwg mewn timezone gwahanol o'r ciws mae nhw'n cael, staff llawr stiwdio yn rhedeg mewn i shot, a chyflwynwyr (a dim offens i Huw "Legend" Llywelyn Davies) sy'n edrych fel eu bod yn cel prin digon o wybodaeth o'r galeri fel mae hi - mae'n taro fi fel slap-it-together-because-we-have-to job.
:x


Peidiwch dechre fi ar gynnwys y cynherdd agoriadol (£12,000 am Kath, 300 o feibion, a dim big finale? Damia, swni di trefnu BBQ mwy gwefreiddiol na hyna)

Sori am y bile, ond dwi'n teimlo'n gryf am y peth :wps:
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Postiogan joni » Llun 07 Awst 2006 4:23 pm

Gwd rant Llefenni, ond gai holi rhywbeth bach...Pam fod gymaint o echo ar lais Huw Llywelyn Davies?
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Llefenni » Llun 07 Awst 2006 4:29 pm

joni a ddywedodd:Gwd rant Llefenni, ond gai holi rhywbeth bach...Pam fod gymaint o echo ar lais Huw Llywelyn Davies?


Gan taw efe yw'r tad, y mab a'r ysbryd glân, Joni :winc:

Neu wrach achos bo'r boi sain heb ddelio efo Mics byw lluosog ers amser hiiiir iawn? Dwni'm (wirioneddol wan), ond dwi'm isie rantio mwy, bydd y Maes yn nofio yn afiachrwydd llysnafedd Llefenni :crio:
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Nesaf

Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron