Amnest Rhyngwladol Cymru: ar y wê!

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Amnest Rhyngwladol Cymru: ar y wê!

Postiogan huwcyn1982 » Sul 13 Awst 2006 6:40 pm

Ar ddydd Sadwrn ola'r steddfod, lansiodd Huw Stephens wefan Gymraeg newydd Amnest Rhyngwladol.

http://www.amnesty.org.uk/cymru

Yng nghwmni Cathy Owens, cyfarwyddwr newydd y mudiad yng Nghymru, cafodd y rhan newydd o'r safle ei dadorchuddio.

Mae'r tudalennau sy'n lleol i swyddfa Cymru nawr ar gael yn gwbl ddwy-ieithog, ac yn cynnwys yr holl wybodaeth am sut mae Amnest yn gweithredu yng Nghymru - a sut gallwch chi ddod yn rhan o'r ymgyrchu.

Yn hwyrach eleni mi fydd Amnest yn cefnogi Mardi Gras Caerdydd ar Fedi'r 2il, a hefyd yn hybu Wythnos Diogelu Dynolryw o Hydref 14eg ymlaen.

Diolch i bawb wnaeth ddod i'r stondin ar y Maes, am gael eich llun 'di tynnu, ac am brynnu'r nwyddau i gyd. Roedd hy'n wythnos wych!
Rhithffurf defnyddiwr
huwcyn1982
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 607
Ymunwyd: Sul 25 Gor 2004 11:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron