huwwaters a ddywedodd:Rhaid i rywle gael ryw fath o autonimy. Gan fod Cymru (a'r Alban) yn rhan o'r DU, .uk sy'n cael ei roi iddi.
dwi'n meddwl, os dwi'n cofio'n iawn ac os nad yw pethe wedi newid, mai gwledydd rhydd sy'n gallu cael rhai sy'n diweddu â dwy lythyren, ond bod catalonia wedi cael .cat (tair llythyren, ofiysli) am fod yn "gymuned ddiwylliannol" neu rwbeth tebyg. dyna beth yw'r ymgyrch yma, ymdrech i gael statws tebyg i catalonia ar y we, ie? wedodd rhywun bod angen pwysleisio'r diwylliannol yn hytrach na statws cymru fel gwlad, sôn am iaith a diwylliant ac osgoi trafod ffiniau diwylliannol. ddim yn siwr os yw hyn wir yn bwysig, ond siwr bydd cymry lerpwl wrth eu boddau
edrych mlaen yn fawr at .cym! wedi cael hen lond bol ar .uk